Bydd sioe gerdd am fywyd Owain Glyndŵr yn ymweld â Chaerdydd ddiwedd y mis, yn dilyn taith o gwmpas Cymru yn yr hydref pan werthwyd pob tocyn.

Fe fydd Y Mab Darogan yn cael ei pherfformio yn Neuadd Dewi Sant yn y brifddinas nos Sadwrn, Ebrill 29.

Mae taith y gwanwyn hefyd yn ymweld â Theatr Hafren yn y Drenewydd ar Fai 5, ac yn dod i ben yng nghanolfan Pontio ym Mangor ar Fai 13.

Bellach, mae’r tocynnau ar gyfer y perfformiad yn Pontio wedi gwerthu i gyd hefyd.

Cafodd y sioe ei hysgrifennu’n wreiddiol yn 1981, pan sefydlwyd Cwmni Theatr Maldwyn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth.

I ddathlu deugain mlynedd ers sefydlu’r Cwmni, penderfynwyd ail-lwyfannu’r sioe sy’n adrodd hanes gwrthryfel Owain Glyndŵr.

‘Angen encore’

Cafodd y sioe ei hysgrifennu gan y diweddar Derec Williams, Linda Gittins a Penri Roberts.

“Wnaethon ni ddim llwyddo i gynnwys Caerdydd yn nhaith yr hydref, a Ffwrnes Llanelli oedd yr unig theatr yn y de,” meddai Penri Roberts.

“Ond ar ôl gwerthu pob tocyn ar y daith honno, fe gawson ni’n perswadio i wneud taith fach arall, ac roedden ni wrth ein boddau pan gawson ni wahoddiad i berfformio yn Neuadd Dewi Sant fel rhan o’r ail daith.

“Fe gawson ni fodd i fyw yn teithio’r wlad efo’r Mab Darogan yn yr hydref efo’n dehongliad ni o hanes gwrthryfel Glyndŵr.

“Mi oedd ymateb y gynulleidfa’n rhyfeddol, felly mi oedd yna deimlad bod angen encore.

“Wrth gwrs, mae taith y gwanwyn yn digwydd cyd-daro efo rhyw achlysur ‘brenhinol’ arall – pa ffordd well o anghofio am y rhwysg hwnnw na dod ynghyd i gofio hanes tywysog olaf Cymru!”