Daeth un o raglenni Hansh, gwasanaeth ar-lein S4C, i’r brig yn un o wobrau New Voice Awards 2022 yn Llundain neithiwr (Ebrill 7).

Enillodd Tisho Fforc? (Afanti Media) wobr yng nghategori’r Gyfres Gymdeithasol Orau, a nhw oedd yr unig gynhyrchiad Cymraeg yn y categori.

Mae Tisho Fforc? yn gyfres ddêtio sy’n cael ei chyflwyno gan Mared Parry, sy’n “rhoi hotties mwyaf Cymru ar blât – yn llythrennol”, lle mae dau berson sy’n chwilio am gariad yn mynd ar ddêt dall ac yn chwarae gemau ac yn ateb ambell gwestiwn lletchwith.

Caiff gwobrau’r New Voice Awards eu trefnu gan The TV Foundation, rhan elusennol Gŵyl Deledu Caeredin, ac mae’n cydnabod a dathlu talentau creadigol newydd a’r cwmnïau sy’n gwneud y mwyaf i’w cefnogi.

‘Cystadlu â’r gorau’

Dywedodd Guto Rhun, Comisiynydd Cynulleidfa Ifanc S4C, eu bod nhw’n “falch iawn” bod y gyfres wedi dod i’r brig, “a hynny mewn categori mor gystadleuol”.

“Mae’r gwobrau New Voice Awards yn dathlu’r gorau o blith talent newydd a chynnwys teledu Prydain – felly’r ffaith bod S4C wedi ennill gwobr yn dangos bod ein cynnwys ni o safon uchel sy’n gallu cystadlu gyda’r gorau yn y byd darlledu.

“Mae cynnwys S4C Hansh wedi’i anelu at gynulleidfa 16 – 24 oed wrth iddo ‘greu trwbl da’ yn gwthio ffiniau a herio gan roi llais i bobol ifanc Cymru.

“Llongyfarchiadau mawr i Afanti Media a’r tîm talentog sydd wedi gweithio’n ddiwyd ar y gyfres yma.”

‘Meddwl lot’

Meddai Mared Parry ar Twitter: “Dw i ddim yn gwybod sut… Ond rydyn ni wedi ennill y Gyfres Gymdeithasol Orau?

“Fe wnaethon ni guro cyfresi a phobol fel Jameela Jamil, Chunkz, The Sidemen, Locked In, Francis Bourgeois a mwy ar gyfer y wobr hon?!

“Ni oedd yr unig gynhyrchiad Cymraeg, ac mae’n meddwl lot i ni!

“Diolch i bawb wnaeth bleidleisio!”

“Rhoi hotties mwyaf Cymru ar blât”… ac ymgyrchu dros hawliau merched

Cadi Dafydd

Pan nad ydy hi yn cyflwyno Tisho Fforc?, mae un o Gymry Llundain yn holi Harry Styles, Ed Sheeran a Lizzo