Pan nad ydy hi yn cyflwyno Tisho Fforc?, mae un o Gymry Llundain yn holi Harry Styles, Ed Sheeran a Lizzo…

Cymysgedd o Dinner Date a Naked Attraction efo sbin Cymraeg arno fo… dyna ddisgrifiad di-flewyn-ar-dafod cyflwynydd rhaglen ddêtio Hansh, Tisho Fforc?

Mae Mared Parry yn ôl ar gyfer ail gyfres o’r rhaglen ddêtio “boncyrs sy’n rhoi hotties mwyaf Cymru ar blât”.