Dim pawb sy’n cael cynnig sgrifennu hunangofiant yn 29 oed. Ac er bod y cynnig yn fraint i gogydd yr enwog Mônuts, gwrthod wnaeth Richard Holt i ddechrau.

Ond gydag ychydig o berswâd a chyfle i gynnwys dipyn o ryseitiau, cytunodd y pobydd a chafodd Y Dewin Melys ei gyhoeddi’n ddiweddar.

Ar gyfnodau prysur, mae pobol yn ciwio hyd at dair awr am ddonuts enwog Richard ym Melin Llynon ar Ynys Môn.