Mae gwaith tri artist o Wcráin – mam, ei mab a’i gymar yntau – i’w weld ar hyn o bryd mewn oriel fawr…

Peth gweddol anghyffredin yw gweld gwaith arlunwyr rhyngwladol yn orielau celf y gogledd. Ond peth anghyffredin iawn yw gweld gwaith gan dri artist o wlad sydd yng nghanol rhyfel – tri sydd wedi cael lloches ym Mhen Llŷn, a theulu gartref yn sŵn y brwydro.