Mae William Lloyd Williams yn un o geffylau blaen y Gymdeithas Bêl-droed, ac mi fydd o yn Qatar i gefnogi’r hogiau…
Nôl ym mis Ebrill roedd yna gigydd adnabyddus o dref Machynlleth draw yn Doha, mewn neuadd gynadledda fawr yn llawn pwysigion y byd pêl-droed rhyngwladol.
Ag yntau yn Is-Lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, roedd William Lloyd Williams ym mhrifddinas Qatar ar gyfer yr achlysur arbennig hwnnw pan oedd Cymru yn cael gwybod pwy fyddai eu gwrthwynebwyr yng Nghwpan y Byd.
“Roedden ni yn Doha i’r draw Cwpan y Byd, ac roedd y FIFA Congress yna,” cofia Wil Lloyd, “ac ro’n i yn cerdded rownd, ac i gyd oedd yn fy meddwl i oedd: ‘Duw, Wil Lloyd, hogyn bach o’r Gasworks Lane, ti wedi dod yn bell i fod yn y World Cup Draw!’
“Ac roedd o’n fraint ofnadwy. Ac roeddwn i yn meddwl am bobl fel George Putt, Ned Price, Jimmy Price, Wil Lewis, Wil Dav, Montana, Edward Vaughan – pobl sydd wedi bod o gwmpas hefo pêl-droed ym Machynlleth. Fyse nhw’n prowd ofnadwy dw i’n meddwl.”
Dyn ei filltir sgwâr yw Wil Lloyd ac mae yn adnabyddus am gynnal siop fwtsiar yn y dref hyd nes yn gymharol ddiweddar.
Yn 62 oed, mae wedi ymddeol o’r busnes gwerthu cig ers rhyw flwyddyn a hanner, a hynny ar ôl ennill gwobrwyon lu am ei gynnyrch a chael cyfarfod Brenhines Lloegr oherwydd ei wasanaeth i’r diwydiant.
Ond i fynd yn ôl at y pêl-droed, fe gychwynnodd ei garwriaeth gyda’r gêm yn fachgen ysgol yn 1968 pan gafodd ei ddewis gan George Putt i chwaraer i’r Machynlleth Hurricanes.
Roedd gan dimau ardal Machynlleth ac Aberystwyth y cyfnod hwnnw enwau lliwgar iawn.
“Dw i’n credu mai’r gêm gyntaf chwaraeais i oedd yn erbyn Waunfawr Wonderers,” cofia Wil Lloyd, “wedyn roedd yna White Ravens, roedd yna Blue Panthers, y Celciaid, roedd yna Penparcau.”
Yn 11 oed fe gafodd ei ddewis i gynrychioli timau cynghrair ardal Aberystwyth, a chael ei flas cyntaf ar bêl-droed rhyngwladol.
“Mi es i i Ffrainc i chwarae pêl-droed, i Saint Brieuc, achos nhw yw’r twin town hefo Aberystwyth.”
Aeth yn ei flaen i chwarae i dîm cyntaf Machynlleth yng Nghyngrair Canolbarth Cymru.
“Roedd hi yn gythraul o gynghrair gryf,” cofia, “gyda thimau fel Prestigne, Llandrindod Wells, y Drenewydd, y Trallwng ac Aberystwyth…
“Yn anffodus, mi ges i ddamwain a collais i lygad, ac mi es i chwarae gyda’r reserves, neu’r Youth League. Wedyn mi’r oeddwn i’n chwarae hefo bois lot ieuengach.
“Roedden nhw yn cael ychydig bach o fy mhrofiad i’n rwbio off arnyn nhw a dw i yn credu wnes i fwynhau hynny yn fwy na dim byd, achos roedd hogia ifanc o’r dre yn dod yn eu blaen a ro’n i gallu rhoi nhw ar y right path. Geson ni lot o sbort fan yna.”
Fe gafodd Wil Lloyd ei ethol ar bwyllgor Cynghrair Canolbarth Cymru i gynrychioli’r chwaraewyr, a dyna gychwyn ei yrfa ar ochr weinyddol y gêm yng Nghymru.
Daeth yn Gadeirydd ieuengaf erioed Cynghrair y Canolbarth, ac erbyn 2016 roedd wedi ei ethol yn aelod o gyngor y Gymdeithas Bêl-droed genedlaethol.
Fe gafodd ei ethol yn Is-Lywydd FA Cymru y llynedd, a dyna sut y cafodd o’i hun yn Doha nôl ym mis Ebrill, yn aros yn eiddgar i belen Cymru ddod allan o’r pot.
Mi fyddan nhw yng ngrŵp B yng Nghwpan y Byd, ac yn cychwyn chwarae nos Lun nesaf yn stadiwm Ahmad bin Ali yn erbyn America, gyda gemau i ddilyn yn erbyn Iran a Lloegr.
Ac mae Wil Lloyd yn rhagweld y bydd sêr Cymru yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o Gymry ifanc i fwrw iddi ar y cae pêl-droed, fel y gwnaeth o yn 1968.
“Mae yna lot o hogiau ifanc heddiw, a merched hefyd, yn chwarae oherwydd Gareth Bale, rhif un ar ddeg. Fo yw’r arwr.
“Wrth gwrs mae’n bwysig bod y linc yna yna, achos pan fydd tîm cenedlaethol Cymru yn gwneud yn dda ac yn ennill, rydach chi’n gweld mwy o blant yn cicio pêl…
“Mae yna ddeud – Together Stronger – ac mae hynny yn esbonio llawer.
“Os liciwch chi, mae yna blant sy’n chwech neu wyth oed yn chwarae, ac mae yna gysylltiad rhwng y chwaraewyr yna – ein plant ni – a’r arwyr fel Aaron Ramsey, Ben Davies a Gareth Bale.”
Gyda Chymru heb dywyllu Cwpan y Byd ers Sweden yn 1958, mae Wil Lloyd yn edrych ymlaen at gael bod yno o’r diwedd.
“Mae’n rhywbeth ofnadwy o fawr,” meddai Wil, “achos mae’n 64 mlynedd ers i ni fod yna, ac rydym yn meddwl am bobl fel Cliff Jones, Ifor Alchurch a John Charles yn cychwyn ar ei yrfa [yn 1958].
“Dw i yn credu ei bod hi yn fraint ofnadwy bod pobl fel fi yn cael mynd i Gwpan y Byd a mwynhau’r celebration, fel mae nhw’n ddweud… a bod pêl-droed yn fawr yng Nghymru.
“Mae pawb yn dweud mai rygbi ydy gêm genedlaethol Cymru – fine…
“Ond mae yn rhaid i fi ddweud hefyd, mae’n amser positif ofnadwy hefo pêl-droed Cymru. Mae’n fraint bod hefo Cymdeithas Pêl-droed Cymru a’r Wal Goch – mae’r ddau yn hafal o ran eu pwysigrwydd i mi!
“Ryden ni wedi gweld y lot.
“Mae yna hogia [sy’n cefnogi Cymru hefo fi], mi gychwynnon ni fynd allan yn 2014 i Andorra, i wylio Cymru. A dw i’n meddwl dim ond falle un neu ddwy gêm dw i wedi methu ers 2014, ac mae hynny yn wir hefo lot o’r hogia lleol yma hefyd. Mae yna griw ohona ni – Machynlleth Town Clock Boys! Mae’r fflag yna wedi bod rownd Ewrop i gyd.”
Y Cigydd a’r Cwîn
Mi fu Wil Lloyd yn rhedeg siop gigydd a lladd-dŷ ym Machynlleth, gan dyfu’r busnes ac ennill yr aur yng Ngwobrau Gwir Flas Cymru, ymysg sawl gwobr arall.
Ac roedd rhai o’i gwsmeriaid yn tynnu ei goes am hyn.
“Pan oeddech chi’n ennill y gwobrau yma, roedd yna rhai pobl o Fachynlleth yn dweud: ‘Wyt ti yn y papur eto! Be ti ‘di ennill rŵan?’”
Mae Wil Lloyd yn dweud bod tair elfen graidd wedi arwain at y llwyddiant.
“Bod yna staff oedd yn lleol ac yn gweithio mor gyson a chaled.
“Y cwsmeriaid oedd wedi bod yn ffyddlon i fi, achos roedden nhw wedi sefyll gyda fi pan fysen nhw wedi gallu mynd i Sainsbury’s neu Morrisons.
“Ac wedyn wrth gwrs roedd y ffermwyr yn Nyffryn Dyfi. Roedd eu cynnyrch nhw mor ddeche.”
Wrth iddo roi llwyfan teilwng i gynnyrch lleol a dod yn adnabyddus am ei waith, daeth Wil Lloyd yn Llywydd y National Craft Butchers sy’n rhoi cyngor ac arweiniad i gigyddion ar draws gwledydd Prydain, ac yn lobïo’r gwleidyddion.
A thrwy’r gwaith hwn y cafodd Wil Lloyd wahoddiad i un o bartis yn yr ardd y Frenhines ym Mhalas Buckingham.
Ac yn 2000 fe gafodd MBE am ei waith yn cynrychioli’r diwydiant cig.
“Roedd yna stori fawr achos mae Wil Lloyd wastad gyda pensil neu beiro ar ei glust o, ac mi wisgais i’r beiro pan ges i’r wobr, ac roedd o yn y papur i gyd!”