Doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl adeg fy mhen-blwydd eleni – mae hi wedi bod yn flwyddyn hegar i lawer ohonom ni, ac roedd yr achlysur y tro yma yn marcio blwyddyn gron o addasu, ymsefydlu, creu cartre newydd, a cheisio dod i arfer gyda bywyd ‘chydig yn fwy… wel, tawel a normal. Yn naturiol, mi ddechreuais y diwrnod, felly, wrth neidio mewn i lyn i gyfeiliant pedwarawd llinynnol ar y lan.