Mae bwlio, o unrhyw fath, yn erchyll ac yn anfaddeuol. Ac mae gen i gydymdeimlad mawr â phawb sydd wedi, neu sydd yn, dioddef bwlio am ba reswm bynnag.

Mae hynny’n cynnwys Gianni Infantino, Llywydd FIFA, a ddatgelodd ar drothwy Cwpan y Byd eleni ei fod yntau wedi ei fwlio yn ystod ei blentyndod am fod ganddo wallt coch. Does gen i ddim cydymdeimlad, fodd bynnag, â’r honiad bod hyn yn ei alluogi i uniaethu â phobl sy’n dioddef gwir ormes a chamwahaniaethu.