Rydan ni gyd yn gwybod fod yna broblem tai yng Nghymru ac ar draws Prydain – o ran eu prynu a’u rhentu. Yn fy ngholofnau blaenorol rwyf wedi ceisio disgrifio maint y broblem a’r hyn sy’n ei achosi.

Ar hyn o bryd mae’n pobl ifanc yn ei chael mor anodd i brynu cartref maent yn gorfod byw am flynyddoedd gyda’u rheini, neu fyw mewn ystafell yn nhŷ rhywun arall. Maent yn gorfod byw ymhell o’u gweithleoedd – gyda’r daith hir i’r gwaith yn amharu ar eu hansawdd bywyd.