Fel rheol dwi’n bryderus wrth ddatgan bod rhywbeth wedi newid. Gall zeitgeist y foment deimlo fel shifft sylfaenol… dim ond i bethau fynd yn ôl i’r hen drefn gydag unrhyw newid yn cael e anghofio. Go brin fod llawer o wledydd wedi gweld hyn yn digwydd mwy na Chymru, wrth i ddyheadau a gobeithion chwalu neu siomi dro ar ôl tro.