Roedd hi wedi gwisgo coch yn arbennig ar gyfer yr achlysur. Ffrog â brynwyd mewn siop elusen ychydig wythnosau ’nôl, gydag arogl persawr ei chyn-berchennog yn glynu fel ysbryd i’r cotwm ysgafn. Ac fe brynodd Ffion hi mewn amrantiad, heb ei thrio amdani ac er nad oedd hi’n gwisgo ffrogiau fel arfer.