Mae bywyd un o brif fathemategwyr Cymru wedi cael ei groniclo mewn cyfrol newydd fydd yn cael ei chyhoeddi’r mis hwn.
O’i blentyndod tlawd yn ardal chwareli Arfon i’w waith fel sefydlydd ysgolion mathemateg yn Llundain, mae Dr Haydn E Edwards yn adrodd hanes bywyd a gwaith Griffith Davies yn ei gyfrol newydd, Griffith Davies: Arloeswr a Chymwynaswr.
Wedi’i eni yn Llandwrog yn 1788, bu Grifith Davies yn ffarmio am gyfnod cyn mynd i weithio yn chwarel Cilgwyn yn Nyffryn Nantlle.
Tri mis yn unig o addysg ffurfiol a dderbyniodd, a dyna pryd y sylweddolwyd fod ganddo allu rhyfeddol mewn mathemateg.
Mentrodd i Lundain, ac ar ôl blynyddoedd o ddysgu ei hun, cyhoeddodd lyfrau mewn mathemateg, ac yn y pen draw fe’i penodwyd yn brif actiwari i gwmni yswiriant Guardian yn y ddinas.
Bu’n weithgar ym mywyd Cymraeg Llundain hefyd, gan sefydlu cyfres o ddarlithoedd gwyddonol yn ei famiaith, ac ymgyrchodd yn llwyddiannus dros hawliau tyddynwyr bro ei febyd a thros addysg i’w gyd-wladwyr.
‘Cyfraniad disglair’
Treuliodd Dr Haydn E Edwards, sy’n ysgolhaig gyda chefndir mewn cemeg, addysg a rheolaeth, ddwy flynedd yn chwilota mewn archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru a Llundain er mwyn gwneud yr ymchwil sy’n sail i’r llyfr.
“Fel un a fagwyd yn y Groeslon ger Caernarfon, roeddwn wedi clywed am Griffith Davies a’i dalent arbennig mewn mathemateg,” meddai’r awdur.
“Pan ddaeth gwahoddiad i siarad yn y pentref penderfynais roi sgwrs amdano.
“Y prif ymateb oedd, pam nag oedd pobl yr ardal yn gwybod am fywyd a gwaith Griffith Davies cyn hyn?
“Dyma felly ddechrau ar yr ymchwil gan chwilota mewn archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru a Llundain dros gyfnod o ddwy flynedd.
“O dipyn i beth, roedd darlun o Griffith Davies yn ymddangos a’m galluogodd i roi’r stori at ei gilydd mewn dull sydd gobeithio’n ddiddorol i’r darllenydd.
“Ceir eglurhad yn y llyfr o gyfraniad disglair Griffith Davies i’r proffesiwn actiwari ac i ddatblygiad mathemateg yn y cyfnod.
“Mae’n stori sydd hefyd yn sôn am ei amrywiol weithgareddau mewn gwahanol gylchoedd gan gynnwys ei ymgyrchoedd dros ei gyd-Gymry drwy gydol ei fywyd.
“Mae ei gyfraniad a’i waith yn berthnasol i ni heddiw mewn nifer o ffyrdd oherwydd ei ymroddiad a’i weledigaeth glir.”
Bydd y gyfrol, sy’n cael ei chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru, yn cael ei lansio yn Ysgol Bro Llifon, Y Groeslon ar Fai 11 yng nghwmni’r awdur, Ffion Eluned Owen, Angharad Tomos, Gareth Ffowc Roberts a gwesteion eraill.