Mae Storiel yn ymgynghori gyda’r cyhoedd ar ddyluniad cerflun efydd sydd wedi ei osod ger adeilad yr amgueddfa a’r oriel ym Mangor.
Yr artists lleol Llyr Erddyn Davies sydd wedi’i gomisiynu i ddylunio a chreu’r cerflun, gyda’r nod o dynnu sylw at y casgliad o wrthrychau ac arteffactau sy’n cael eu harddangos yn Storiel ac sy’n adlewyrchu hanes y sir.
Mae’r cerflun yn darlunio ffigwr ar ganol cam, ei gorff wedi’i lyncu mewn glôb haenog mawr yn cynnwys gwrthrychau o gasgliad Storiel.
Roedd y briff gwreiddiol yn gofyn am rywbeth chwareus, felly mae Llyr Erddyn Davies wedi cyfeirio at lawer o’r hanes lleol trwy gyfres o hetiau a phenwisgoedd i gynrychioli cymunedau a straeon niferus Gwynedd, gan gynnwys cap morwr, helmed filwrol, cap graddio, meitr Esgob.
Mae’r dyluniad wedi’i ddatblygu o weithdai cyhoeddus gyda thrigolion Bangor a’r cyffiniau.
‘Pobol a’u hamgylchedd’
Yn ddarn haniaethol sydd wedi cael ei ddatblygu dros flynyddoedd, mae’r cerflun yn adlewyrchiad o gymdeithas a hanesion cymdeithas Gwynedd.
“Mae hwn yn rhan o brosiect wnaeth ddechrau nôl yn 2017, sef prosiect o’r enw ‘Hunan’, prosiect oedd yn edrych ar, ac ymgysylltu efo, cymunedau lleol, trwy weithdai a thrwy ymateb personol i gasgliad yr amgueddfa ac ymgynghori cyhoeddus i greu darn o gelf fysa ar gyfer darn celf gyhoeddus o flaen Storiel,” meddai Llyr Erddyn Davies wrth golwg360.
“Trwy’r gwaith efo’r prosiect roeddwn eisiau mynd ati i archwilio’r berthynas rhwng pobol a’u hamgylchedd a’r straeon sy’n ymgysylltu efo’r creiriau sydd yn y casgliad ond sydd hefyd yn ein cymunedau ni.
“Dyna yw pwrpas Storiel, arddangos Treftadaeth Gwynedd ac ymgysylltu â chymunedau a mawrygu’r cyffredin a’r bywyd bob dydd.
“I ddechrau roedd y syniad o gwmpas y penwisgoedd yma oherwydd y cysylltiad â Choron Brenin Enlli, sy’n un o’r prif weithiau sy’n rhan o gasgliad Storiel, a’r straeon a hanesion sy’n dod efo’r goron yma.
“Pwy fysa’n meddwl bod yna frenin wedi bod ar Ynys Enlli?
“Roedd hwnna’n wedi datblygu fel chwilfrydedd taug at y straeon tu ôl i benwisgoedd.
“Rŵan mae wedi datblygu i edrych mewn i fwy o’r creiriau sydd yn y casgliad hefyd.
“Roeddwn eisiau dod â fo at ei gilydd er mwyn ffurfio rhyw fath o ffigwr sydd i weld yn symud a thyfu, bod yr holl haenau yma sydd mewn cymdeithas a straeon cymdeithas mewn ffigwr sydd i weld efallai’n haniaethol yn ei ffordd.”
Atynu pobol
Mae Storiel wedi derbyn cyllid gan gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru er mwyn ail-ddylunio’u gofod awyr agored i’w wneud yn fwy deniadol i ymwelwyr.
“Mae Storiel wedi bod yn llwyddiannus i gael y grant yma. Rhan fach o’r cyllid ydy’r rhan cerflun yma,” meddai Llyr Erddyn Davies.
“Mae o’n rhan o gyllid llawer mwy sy’n ymwneud a gwella’r ardal o gwmpas Storiel, ac i gael pobol mewn i Storiel.
“Rwy’n gobeithio datblygu eu chwilfrydedd nhw er mwyn iddyn nhw fynd mewn i Storiel ei hun i drio darganfod y creiriau, i drio darganfod y straeon.
“O fewn hynny mae pobol ychydig bach yn fwy ymwybodol o’u cymunedau a hanes eu cymunedau yng Ngwynedd.”
Cyllid gan gronfa Trawsnewid
“Mae Storiel wedi derbyn cyllid gan gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru er mwyn gallu ail-ddylunio eu gofod awyr agored ac i’w wneud yn fwy deniadol i ymwelwyr,” meddai Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd.
“Mae’r cerflun yn darlunio ffigwr ar ganol cam, ei gorff wedi’i lyncu mewn glôb haenog mawr yn cynnwys gwrthrychau o gasgliad Storiel.
“Mae’r arteffactau hyn yn portreadu cyfoeth ac amrywiaeth y casgliad a hanes Gwynedd.
“Rydym nawr yn awyddus i dderbyn adborth ar y dyluniad gan aelodau o’r cyhoedd ac mae holiadur ar-lein ar gael i wneud hynny.”
Mae fideo fer o’r gwaith i’w gweld yma.