Mae cynnig wedi cael ei gyflwyno i restru Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig.

Agorodd y neuadd yn 1983, ac mae’n un o’r adeiladau ieuengaf i gael eu cynnig i’w rhestru yng Nghymru.

Cafodd ei adeiladu rhwng 1978 a 1982, ac roedd yn un o’r neuaddau cyngerdd cyntaf ar raddfa fawr i gael eu hadeiladu y tu allan i Lundain ers yr Ail Ryfel Byd.

Roedd yn gynllun arloesol ar gyfer neuadd gyngerdd, gyda siâp polygonaidd a’i seddi wedi’u gosod mewn terasau o amgylch y llwyfan.

‘Cydnabyddiaeth haeddiannol’

Mae ymgynghoriad ar y cynnig gan gorff Cadw ar y gweill.

Dywed y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau ar Gyngor Caerdydd, eu bod nhw’n croesawu’r ymgynghoriad.

“Mae Neuadd Dewi Sant wedi bod yn ganolbwynt ar gyfer digwyddiadau cerddorol a chelfyddydol ein dinas ers deugain o flynyddoedd ac mae’r Cyngor wrthi’n cynnal proses a fydd yn diogelu ei dyfodol, gan fynd i’r afael â’r holl waith cynnal a chadw y mae angen ei wneud er mwyn diogelu’r adeilad,” meddai.

“Rydym yn parhau’n ymrwymedig i ddiogelu dyfodol y Neuadd gan warchod ei rhagoriaeth acwstig.

“Gyda chymorth arbenigol Cadw gallwn sicrhau bod ein cynlluniau yn gwbl briodol er mwyn diogelu’r Neuadd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Os caiff y Neuadd ei rhestru, credwn y bydd nodweddion pensaernïol a hanes y Neuadd yn ennill y gydnabyddiaeth haeddiannol.

“Byddai hyn yn gam positif ar gyfer y ddinas a fydd yn cyd-fynd â chynlluniau’r Cyngor ar gyfer y Neuadd, gan helpu i sicrhau bod Neuadd Dewi Sant yn parhau’n ganolbwynt diwylliannol uchel ei barch am ddegawdau eto.”

‘Adeilad pwysig’

Ychwanega Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon yn Llywodraeth Cymru, y byddai rhestru’r adeilad yn cydnabod ei bwysigrwydd i Gymru.

“Mae’n cydnabod ei diddordeb pensaernïol arbennig fel neuadd gyngerdd arloesol, a’i diddordeb hanesyddol arbennig fel adeilad pwysig yn y gwaith o ailddatblygu Caerdydd wedi’r rhyfel sy’n gysylltiedig â statws y ddinas yn brifddinas Cymru,” meddai.