Mae Peter Murrell, cyn-Brif Weithredwr yr SNP a gŵr cyn-Brif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon, wedi cael ei arestio fel rhan o ymchwiliad i weithdrefnau ariannol y blaid Albanaidd.

Mae’r dyn 58 oed yn cael ei holi ar ôl cael ei gludo i’r ddalfa fore heddiw (dydd Mercher, Ebrill 5), ac mae’r heddlu’n chwilio sawl eiddo wrth i nifer o gerbydau’r heddlu gael eu gweld y tu allan i bencadlys yr SNP yng Nghaeredin a chartre’r teulu yn Glasgow, lle mae pabell fforensig wedi’i chodi.

Camodd Peter Murrell o’r neilltu fis diwethaf ar ôl cael ei benodi yn 1999, ac mae Nicola Sturgeon bellach wedi ymddiswyddo hefyd, ac wedi’i holynu gan Humza Yousaf.

Dydy’r Prif Weinidog newydd ddim wedi gwneud sylw am yr achos, ond mae’n dweud ei fod yn “ddiwrnod anodd” i’r SNP, a bod y blaid yn “cydweithredu’n llawn” â’r heddlu ac wedi cytuno i gynnal arolwg o lywodraethiant a thryloywder.

Cefndir

Dechreuodd ymchwiliad Heddlu’r Alban i’r achos fis Gorffennaf 2021, ar ôl derbyn cwynion ynghylch y ffordd roedd rhoddion ariannol i’r SNP yn cael eu defnyddio.

Mae amheuon ynghylch y defnydd o arian sydd wedi’i roi i’r blaid at ddibenion yr ymgyrch tros annibyniaeth.

Ar y pryd, dywedodd Nicola Sturgeon nad oedd hi’n “poeni” am yr ymchwiliad, ac y byddai “pob ceiniog” o’r arian y byddai’r blaid yn ei dderbyn yn mynd tuag at yr ymgyrch tros annibyniaeth.