Bydd siopau sionc, neu siopau pop-yp, yn dychwelyd i stryd fawr tair tref yn Sir Gaerfyrddin dros y Pasg.

Fe fydd cyfle i fusnesau’r sir arddangos eu cynnyrch i gynulleidfaoedd newydd yn Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman yr wythnos nesaf.

Bydd y siopau sionc yn ymddangos yn hen siop EE yn Llanelli ac yn hen siop Debenhams yng Nghaerfyrddin rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener nesaf (Ebrill 11-14), ac fel marchnad awyr agored yn Stryd y Cei yn Rhydaman ddydd Gwener nesaf (Ebrill 14).

Dywed y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, ei fod yn “falch o weld busnesau Sir Gaerfyrddin yn dychwelyd i’n tair prif stryd fawr yn ystod gwyliau’r Pasg, a hynny yn siopau sionc 100% Sir Gâr”.

“Pa ffordd well o dreulio’r gwyliau Pasg na mwynhau diwrnod yn y dref, yn siopa ac yn cefnogi busnesau Sir Gaerfyrddin?” meddai.

Mae’r prosiect wedi derbyn cyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 ‘Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru’, a gaiff ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.