Mae Llyr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, wedi croesawu’r penderfyniad “pragmatig” i ohirio’r ymgynghoriad ar barcio ar balmentydd tan 2024, yn dilyn y “pwysau aruthrol” sy’n wynebu cynghorau.

Mae wedi’i ohirio yn dilyn cwynion gan gynghorau Cymru fod gweinidogion yn gofyn am ormod o bolisïau trafnidiaeth newydd.

Yn ôl y cynllun, byddai gan gynghorau’r pŵer i ddosbarthu dirwyon hyd at £70 i’r rheiny sy’n cael eu dal yn parcio ar balmentydd.

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi mewn datganiad ysgrifenedig gan Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Hinsawdd, ddydd Llun (Ebrill 3).

“Rwy’n cydnabod ein bod yn gofyn i lawer o awdurdodau lleol sydd dan bwysau mawr ar yr hyn sy’n parhau i fod yn gyfnod anodd,” meddai.

“Rwy’ wedi gwrando ar yr adborth gan arweinwyr ac wedi penderfynu gohirio’r ymgynghoriad ar barcio ar balmentydd tan y flwyddyn nesaf.

“Bydd hyn yn galluogi awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar weithredu a chyflwyno terfynau cyflymder 20m.y.a. diofyn ym mis Medi 2023, a’r gwaith i baratoi ar gyfer masnach freinio bysiau.”

Gormod o bwysau ar gynghorau

Yn ôl yr elusen Living Streets, roedd 83% o bobol eu holi ganddyn nhw yn cytuno bod parcio ar balmentydd yn broblem, ac yn cytuno gyda gwaharddiad.

Mae’r syniad hefyd wedi cael ei groesawu gan bobol sydd ag anableddau, megis rheiny mewn cadair olwyn, sy’n dweud ei bod yn beryglus gorfod pasio car wedi ei barcio ar balmant ger lonydd prysur.

Fodd bynnag, oherwydd y llwyth gwaith cynyddol sy’n wynebu cynghorau lleol, mae Llyr Gruffydd wedi croesawu gohirio’r ymgynghoriad.

“Er mor siomedig ag y bydd hyn i lawer, dyma’r penderfyniad cywir i gymryd agwedd bragmatig ar adeg pan fo cynghorau dan bwysau aruthrol,” meddai.

Ar hyn o bryd, mae cynghorau lleol yn gweithio ar weithredu’r terfyn cyflymder rhagosodedig o 20m.y.a. mewn ardaloedd trefol, fydd yn dod i rym eleni.

Fis diwethaf, derbyniodd Llywodraeth Cymru restr hir o gwynion gan arweinwyr cynghorau ynglŷn â’u polisïau trafnidiaeth.

“Mae yna restr hir o brosiectau a gofynion sy’n ymwneud â thrafnidiaeth, ac mae pob un ohonynt yn cael eu datblygu ar yr un pryd,” meddai llythyr ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

“Yr enghraifft ddiweddaraf yw’r cynnig ar orfodi parcio ar balmentydd.

“Mae hyn yn rhoi pwysau mawr ar staff priffyrdd a thrafnidiaeth cynghorau gyda llawer ohono ar ben y ‘gwaith bob dydd’, megis cynnal a chadw priffyrdd a strwythurau a chadw gwasanaethau bysiau dyddiol i redeg yn esmwyth.”

Dod â chyllid bysiau i ben

Yr wythnos hon, daeth cyhoeddiad hefyd y byddai’r cyllid argyfwng gychwynnodd yn ystod y pandemig ar gyfer diwydiant bysiau Cymru yn dod i ben.

Mae Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, wedi ymateb i gyhoeddiad Lee Waters.

Nododd hi y dylai cynghorwyr fod yn rhydd i ganolbwyntio ar wneud palmentydd yn hygyrch i gadeiriau olwyn, a “chyflwyno polisïau trafnidiaeth sy’n gwella bywydau, nid yn eu biwrocrateiddio”.

Dywed, heb y pwysau i gyflwyno’r terfyn cyflymder 20mya, gallai cynghorwyr “ganolbwyntio ar orfodi parcio ar balmentydd, rhywbeth rydyn ni’n meddwl sydd angen mynd i’r afael ag e ar frys”.

“Mae cynghorwyr yn gwybod yn well na gweinidogion Llafur beth yw anghenion trafnidiaeth eu cymunedau lleol, a dyna pam mae uwch-gynghorwyr Llafur wedi bod mor feirniadol o adolygiad ffyrdd diweddar y Llywodraeth Lafur a chyflwyno’r terfyn cyflymder 20mya,” meddai.