Bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried sut i ddefnyddio’r enw Cymraeg yn unig ar gwm ger Machynlleth ar arwydd ffordd, wedi i ddifrod gael ei wneud i’r arwydd dros y penwythnos.
Paentiwyd dros yr enw Saesneg ar Gwm Maethlon, ‘Happy Valley’, ar arwydd ffordd, ac mae Cyngor Gwynedd wrthi’n edrych ar y difrod.
Wrth ymateb, dywedodd y Cyngor eu bod nhw wedi adolygu eu polisi iaith yn 2022, gan adnewyddu eu hymrwymiad i warchod enwau llefydd Cymraeg.
Yn rhan o hynny, byddan nhw’n ystyried newidiadau priodol i arwyddion wrth iddyn nhw gael eu hadnewyddu er mwyn defnyddio enwau Cymraeg yn unig.
“Gallwn gadarnhau mai Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am gynnal a chadw arwydd Cwm Maethlon, ac mae swyddogion yn edrych ar y difrod,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.
“Byddwn yn ystyried sut y gallwn weithredu ar y datganiad polisi wrth adnewyddu’r arwydd.
“Mae gan y Cyngor Brosiect Enwau Llefydd sydd yn gyfrifol am weithredu’r newidiadau yma ac am lu o faterion eraill sy’n ymwneud efo gwarchod enwau cynhenid Cymraeg, o geisio sicrhau nad yw enwau tai yn cael eu newid i enwau Saesneg i godi ymwybyddiaeth am yr enwau amrywiol a difyr hynny sydd gan y boblogaeth leol ar nodweddion a lleoliadau, na fyddent byth yn ymddangos ar fapiau.”
‘Enwau cynhenid yn angof’
Roedd y Cynghorydd Elwyn Vaughan, sy’n cynrychioli Plaid Cymru ar Gyngor Powys ac yn byw yn Nyffryn Dyfi, wedi bod yn galw ar Gyngor Gwynedd a Chyngor Ceredigion i newid arwyddion ffyrdd sy’n “hybu dim mwy nag imperialaeth ddiwylliannol”.
Cyfeiriodd at ‘Happy Valley’, ynghyd â’r enw ‘Artists Valley’ ar Gwm Einion ger Ffwrnais yn Aberystwyth, gan ddweud eu bod nhw’n “enwau ffug i blesio twristiaeth”.
Wrth ymateb, dywedodd Cyngor Ceredigion fod ffordd A487 rhwng Aberystwyth a Machynlleth, lle mae’r arwydd i Gwm Einion, yn gefnffordd “ac felly yn dod o dan gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru”.
Mae sylw gan Elwyn Vaughan ar Facebook wedi ennyn cryn drafodaeth, gyda sawl un yn nodi bod yr enw ‘Happy Valley’ yn hŷn na Chwm Maethlon, mewn gwirionedd.
Dyffryn Gwyn oedd yr enw gwreiddiol ar yr ardal, ac mae’r enw Saesneg ‘Happy Valley’ yn deillio o gyfnod y Fictoriaid.
Yn ôl yr awdur Manon Steffan Ros, cafodd Capel Maethlon yn y cwm ei enwi ar ôl fferm Erw Faethlon, ac ar ôl hynny y daeth Cwm Maethlon.
“Yma yn Nyffryn Dyfi, ardal sy’n cynnwys rhannau o Bowys, Gwynedd a Cheredigion, mae hynny yn golygu cydweithio a chyd-ddeall trawsffiniol,” meddai wrth Elwyn Vaughan wrth golwg360.
“Cymerwyd cam cadarnhaol yn ddiweddar gan Barc Cenedlaethol Eryri yn cadarnhau Y Wyddfa fel enw swyddogol, bellach mae angen gwneud yr un fath efo’r ddau gwm yma a sicrhau bod y Gymraeg yn fyw ar lafar gwlad – neu efo amser angof fydd yr enwau cynhenid a ffug rhamantiaeth dwristaidd fydd yn gorfudd a thrwy hynny byddwn yn colli rhan bellach o’n bioamrywiaeth naturiol.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a’r holl randdeiliaid perthnasol i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg.”