Mae hi’n “hynod bwysig” dysgu o hanes, meddai arweinydd Cyngor Ynys Môn wrth ddiolch i bawb fu ynghlwm â’r ymdrechion i ddod â diffygion parhaus yn y Cyngor i ben.

Aeth chwarter canrif heibio ers i adroddiad damniol ar ddiwylliant Cyngor Ynys Môn gael ei gyhoeddi.

Fis Ebrill 1998, roedd yr adroddiad yn beirniadu’r ffordd roedd y Cyngor wedi bod yn cael ei redeg ers tua dau ddegawd.

Cafodd cyhuddiadau o gamddefnyddio pwerau er budd personol eu gwneud yn erbyn sawl cynghorydd, a daeth y ddadl i benllanw ddeng mlynedd wedyn.

Ar ôl cyhoeddi’r adroddiad, cafodd Pwyllgor Safonau ei sefydlu i graffu ar waith y Cyngor, cafodd holl weithredoedd y Cyngor eu hatal am gyfnod, a chafodd ei redeg gan gomisiynwyr gafodd eu penodi gan Lywodraeth Cymru yn 2011.

Yn y pendraw, gwnaed newidiadau i drefn etholiadol yr awdurdod yn 2012.

Llais y Bobl

Yn ystod y 1990au, bu Llais y Bobl yn ymgyrchu dros newid, ac fe fu un o sylfaenwyr y mudiad, y Parchedig Hywel Meredydd Davies, yn galw ar Gyngor Ynys Môn i gydnabod ymdrechion y sawl fu’n ymdrechu i newid pethau.

Cafodd Llinos Medi ei hethol dros Blaid Cymru gyntaf yn 2013, cyn dod yn arweinydd ar y Cyngor yn 2017.

“Y peth cyntaf ydy ein bod ni’n dweud diolch i bawb, mae yna gymaint wedi bod ynghlwm â dod â’r diffygion i sylw a hefyd i weithredu arnyn nhw wedyn, a gweld y gwahaniaeth rydyn ni’n ei weld heddiw,” meddai wrth golwg360.

“Diolch yn fawr iawn i bawb, boed hynny ar lefel fychan iawn neu ar lefel fawr – maen nhw wedi cyfrannu i’r newid yma.

“Mae yna aelodau etholedig ar y pryd a rhai presennol, dim pawb oedd yn cael eu cynnwys yn y negyddiaeth i gyd.

“Be’ sy’n hynod bwysig i fi ydy ein bod ni’n dysgu o hanes hefyd.

“Be’ dw i wedi sylwi dros y blynyddoedd ydy bod pobol wedi anghofio’r cyfnod yna, ac mae hi’n bwysig bod rhywun yn cofio’r adegau yna fel ein bod ni byth yn llithro’n ôl i ddyddiau tywyll fel yna.

“Ein slogan ni yn 2013 oedd ‘Adfer enw da Môn’, ac mae hwnnw dal yn berthnasol heddiw.

“Bellach, mae ein rheoleiddwyr ni’n dweud [ein bod ni wedi adfer yr enw da]. Mae’r adroddiad gan reoleiddwyr, boed o’n Swyddfa Archwilio Cymru, boed o’n Estyn, boed o’r Arolygiaeth Gofal, i gyd yn gadarnhaol bellach.

“Cyn y pandemig, roedden ni’n mesur perfformiad ac roedd Cyngor Môn yr ail awdurdod oedd yn perfformio orau yng Nghymru.

“Mae’n dangos ein bod ni wedi troi pethau rownd, a be’ sy’n bwysig ydy ein bod ni’n parhau ar y siwrne yna, achos dyna mae pobol Ynys Môn yn ei haeddu o’r awdurdod lleol – awdurdod sy’n gweithredu er eu budd nhw.”

Democratiaeth iach

Roedd Hywel Davies wedi awgrymu y byddai’n dda cynnal darlith achlysurol yn nodi pwysigrwydd democratiaeth leol iach.

“Dw i’n meddwl bod aelodau etholedig fel fi’n bencampwyr dros ddemocratiaeth, ein bod ni’n hyrwyddo lleisiau, yn gwneud yn siŵr bod gennym ni aelodau etholedig sy’n sefyll am y rhesymau cywir a bod yna drawstoriad o gymdeithas yn rhan o’r aelodau etholedig yna,” meddai Llinos Medi.

“Mae hi’n bwysig bod democratiaeth yn cael sylw, ac mae’r Cwricwlwm Newydd i Gymru yn rhoi cyfle i ni edrych ar ffyrdd o wneud hynny.

“Cyn y pandemig, roedden ni’n gwahodd ysgolion cynradd yma i fynd â nhw o gwmpas, iddyn nhw ddeall be’ mae’r awdurdod yn ei wneud.

“Dw i’n meddwl, os fysa yna ddigwyddiad blynyddol, bod y rhai fel Emlyn Richards a Hywel Meredydd yn cyflwyno’r rheiny, achos nhw oedd y rhai oedd yno.

“Doeddwn i’n amlwg ddim yno, rhywun sydd wedi dod wedyn, a rhywun gafodd ei hysgogi i sefyll oherwydd be’ oedd yn digwydd ydw i.”

‘Llywodraethiant doeth’

Mae Llinos Medi yn cyfaddef ei bod hi wedi cymryd “lot o amser” i ddwyn perswâd arni i sefyll fel cynghorydd, ond unwaith y cafodd ei hethol roedd hi’n gweld be oedd ddim wedi bod yn digwydd yno.

“Cefais i gyfnod o fod yn arweinwyr yr wrthblaid yma, ac mi wnes i weithredu mewn ffordd wleidyddol aeddfed a chydweithio gyda’r rhai oedd yn arwain er budd Ynys Môn, ac roedd hwnna’n rhywbeth gwbl ddiarth i’r ynys,” meddai.

“Doedden nhw ddim wedi arfer cael gwrthblaid oedd yn adeiladol ac yn herio’n fewnol, a ddim herio mewn ffordd bersonol ond herio ar sail polisïau ac yn y blaen.

“Pan mae rhywun yn mynd allan i ofyn am bleidlais rhywun, dydy o ddim y peth mwyaf deniadol i’w ddweud ond mae llywodraethiant doeth yn bwysicach na dim, bod rhywun yn gwneud be’ sy’n iawn.

“Dw i’n gobeithio bod pobol yr ynys yn sylweddoli bod hynny yn digwydd yma rŵan, beth bynnag ydy eu barn wleidyddol nhw.”

‘Cam positif a dewr’

Mae Dylan J Williams, Prif Weithredwr Cyngor Ynys Môn, yn cydnabod cyfraniad y rhai gododd eu lleisiau dros chwarter canrif yn ôl hefyd, gan ddweud eu bod nhw wedi cymryd cam “positif a dewr”.

“Roedd adroddiad Ceri Stradling [yn 1998] a’r gweithredu ddaeth yn ei sgil yn gyfrifol am greu ymateb gan y gyfundrefn genedlaethol a lwyddodd i roi cyfeiriad newydd i’r Cyngor Sir,” meddai.

“Heddiw, mae yna lywodraethiant, cydymffurfiaeth a diwylliant cadarn sydd yn greiddiol i weithdrefnau’r Cyngor Sir.

“Rydym yn cydymffurfio gyda disgwyliadau cenedlaethol ac yn perfformio yn dda – gydag adroddiadau rheoleiddwyr allanol yn profi hyn.

“Rhaid cydnabod rôl ein staff sydd yn parhau i weithio’n ddygn ac yn effeithiol.

“Mae pob tro lle i wella a dysgu, wrth gwrs, ond erbyn hyn rwy’n hynod o falch allu dweud ein bod ni’n Gyngor tra gwahanol.

“Rydym yn hyderus, yn dryloyw ac yn falch iawn o’n gweithlu ac aelodau etholedig sydd yn gwneud eu gorau glas ar ran yr ynys a’i thrigolion.”

 

Chwarter canrif ers cyhoeddi adroddiad yn beirniadu diwylliant Cyngor Ynys Môn

Cadi Dafydd

“Yr un pryd ag yr oedd pobol yn cael bil treth, roedd yna hanesion bod swyddogion wedi bod yn Ffrainc i gêm rygbi am ddim”