Mae hi’n chwarter canrif ers i adroddiad damniol ar ddiwylliant Cyngor Ynys Môn gael ei gyhoeddi.

Ym mis Ebrill 1998, cafodd adroddiad ei gyhoeddi’n beirniadu’r ffordd roedd y Cyngor wedi bod yn cael ei redeg ers tua dau ddegawd.

Cafodd cyhuddiadau o gamddefnyddio pwerau er budd personol eu gwneud yn erbyn sawl cynghorydd, a daeth y ddadl i benllanw ddeng mlynedd wedyn.

Yn 2009, dan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, bu’n rhaid cael gwas sifil yno i drio mynd i’r afael â’r dadlau.

Ym mis Mawrth 2011, cafodd holl waith y Cyngor ei atal a chafodd tîm o gomisiynwyr eu penodi gan Lywodraeth Cymru i redeg yr awdurdod.

Pobol yn ‘corddi’

Roedd y Parchedig Hywel Davies yn un o’r rhai fu’n galw am newid, ac roedd yn un o sylfaenwyr mudiad gwleidyddol Llais y Bobl, ar y cyd â’r arweinydd, y Parchedig Emlyn Richards, Dylan Morgan, Wyn Morgan a J B Hughes.

“Ddes i fyw i Sir Fôn yn 1980 ac roedd rhywun yn ymwybodol dros y blynyddoedd bod yna broblemau, ond doedd hi ddim tan i ni gael adroddiad yr Archwiliwr Dosbarth yn enwi pobol ac yn dweud be oedden nhw wedi’i ddweud, yn ddu a gwyn, oedd wedi cyfle i ni ddod at ein gilydd,” eglura Hywel Davies wrth golwg360 wrth gofio’n ôl.

“Fysa fo wedi gallu’n hawdd iawn â hel llwch ar y silff, yr adroddiad, a dyna oedd y Cyngor yn mawr iawn obeithio, ond fe wnaethon ni roi sylw iddo fo.

“Roedd y Parchedig Emlyn Richards yn ffrindiau efo’r arwerthwr ym mart Morgan Evans, ac fe gaethon ni’r lle ac roedd yna areithiau a phobol yn galw am ymddiswyddiadau.

“Roedd o’n rywbeth reit fawr ar ddiwedd y 80au – roedd cannoedd yn mynd i’r ralïau.

“Yr un pryd ag oedd pobol yn cael bil treth roedd yna hanesion bod swyddogion wedi bod yn Ffrainc i gêm rygbi am ddim.

“Roedd pobol wedi teimlo ers blynyddoedd, o diar, ond pan oedden nhw’n gweld adroddiad yr Archwiliwr Dosbarth roedden nhw’n corddi. Wedyn pam talu trethi i gynnal y fath beth?”

Wrth ymateb i’r dadlau, trefnodd y Cynulliad i’r diweddar Michael Farmer QC ymweld â’r Cyngor ac ymchwilio i’r mater.

Ei argymhelliad oedd sefydlu Pwyllgor Safonau, ac erbyn hyn mae gan bob Cyngor Sir bwyllgor o’r fath.

“Roedd wir angen rhywun arall i ddweud wrthym ni, ac roedden nhw’n gallu dweud be’ oedd be’,” meddai.

“Mae pob Cyngor Sir yn ddyledus am hynny, mae’n rhaid cael ryw bwyllgor ar wahân i’r Cyngor i scriwtineiddio.”

Mae Hywel Davies yn galw ar Gyngor Ynys Môn i gydnabod cyfraniad y sawl wnaeth herio’r hen drefn a galw am bwyllgor safonau yn swyddogol am y tro cyntaf, gan gynnwys cyfraniad Ceri Stradling, yr Archwiliwr Dosbarth ar y pryd; Michael Farmer; cannoedd o bobol Môn fu’n protestio ac yn gwrthod talu trethi; a sylfaenwyr Llais y Bobl.

Newid y drefn etholiadol

Roedd Hywel Davies yn is-gadeirydd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru yn 2012, ac fe wnaeth y Comisiwn argymhelliad i newid trefn etholiadol yr Ynys er mwyn sicrhau bod mwy nag un cynghorydd mewn etholaethau.

“Cefais fy mhenodi i fod ar Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru, a’r cyfle drwy’r comisiwn i ystyried pob Sir yn ei thro; dyma pryd y cawsom gyfle i edrych yn fanwl ar Sir Fôn, a sylweddoli bod y broblem yn dal i fod yno; sylweddoli hefyd bod rhai cynghorwyr dylanwadol wedi bod ar y Cyngor o’i ddechreuad,” meddai.

“Roedd pobol Llannerch-y-medd a phobol Amlwch yn troi at ddau gynghorydd dylanwadol dros ben, y ddau wedi hen arfer efo grym ac awdurdod.

“Felly roedd teyrngarwch yn tyfu rhwng etholwyr a’r ddau gynghorydd, ond roedd llawer iawn o ddŵr yn troi i felinau’r ddau.

“Penderfynodd y Comisiwn Ffiniau y dylid cael trefn etholiadol newydd fel bod y ddau neu’r tri chynghorydd uchaf ym mhob etholiad lleol yn mynd ar y cyngor; roedd hyn yn newid yr hen deyrngarwch traddodiadol i’r hen gynghorwyr.

“Unwaith y cafodd argymhelliad y Comisiwn Ffiniau ei fabwysiadu yn 2012 diflannodd yr hen arweinwyr oddi ar y llwyfan gwleidyddol.

“Roedden nhw wedi sefydlu diwylliant, nhw oedd wedi apwyntio swyddogion felly roedd yna ddiwylliant yna o fwlio a manipiwleiddio.

“Mae hi wedi cymryd amser i’r argymhellion dreiddio trwodd.

“Fedri di ysgwyd y goeden, ond sut mae gosod pethau yn eu lle wedyn? Fe wnaethon ni ysgwyd y goeden efo Llais y Bobl a gwneud ffỳs a thynnu sylw, ond roedd angen rhywbeth cyfansoddiadol yn ei le fel bod y drefn yno rŵan.

“Bellach mae Cyngor newydd yn ei le, maen nhw’n gwella ac wedi gwella pethau. Does yna ddim byd fel yna rŵan.

“Hoffwn ddal ar y cyfle i longyfarch Llinos Medi, maen nhw wedi cael trefn ar y Cyngor dan ei harweiniad hi.”

Mae Hywel Davies hefyd yn gwerthfawrogi’r ymateb cadarnhaol dderbyniodd gan Llinos Medi, arweinydd Cyngor Ynys Môn, yn cydymdeimlo â’r sefyllfa ac yn diolch i’r sawl fu’n rhan o’r ymgyrch i newid y drefn.

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Ynys Môn am ymateb.