Mae’n bosib i bobol yn Nyffryn Nantlle gael benthyciad di-log o hyd at £5,000 i gychwyn neu ddatblygu busnes lleol.
Mae Mynd Amdani yn gronfa ar y cyd â Menter Môn ac Antur Nantlle sy’n rhoi benthyg arian i bobol gychwyn neu ddatblygu busnes yn yr ardal.
Maen nhw’n cydweithio â’r Hwb Menter i gynnig cymorth busnes i ymgeiswyr gyflwyno cais i’r panel.
Cafodd cefnogaeth ariannol ar gyfer rhaglenni Arloesi Gwynedd Wledig ei rhoi gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020, yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear a Chyngor Gwynedd.
Ers 2015, maen nhw wedi bod yn gweinyddu cronfa fenthyciadau Be Nesa Llŷn ar ran grŵp o bobol fusnes yr ardal oedd yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned a helpu pobol ifanc i sefydlu neu ddatblygu busnes yn ardal Pen Llŷn.
Ers hynny, mae’r arian wedi cael ei ailgylchu gymaint o weithiau nes bod dros £70,000 wedi cael ei ddosbarthu i bymtheg busnes a menter gymdeithasol yn yr ardal.
Felly fe wnaethon nhw benderfynu chwilio am fwy o gymunedau fyddai â diddordeb sefydlu model buddsoddi lleol yn eu hardal nhw.
Dangosodd Antur Nantlle ddiddordeb yn y cynllun, ac felly cafodd Mynd Amdani ei sefydlu.
Helpu busnesau a phobol
Mae’r gronfa yma ar gael i unrhyw un yn ardal Dyffryn Nantlle sydd â busnes, neu sydd eisiau datblygu busnes, efo unrhyw gostau.
“Mae llawer o fusnesau yn Nyffryn Nantlle, rydym yn gobeithio gwneith y gronfa yma helpu’r busnesau yna, ond hefyd helpu busnesau newydd sefydlu yn yr ardal,” meddai Betsan Siencyn, Uwch Swyddog Cynlluniau efo Menter Môn.
“Gall y gronfa fynd at unrhyw fath o gostau, fel costau hyfforddiant, costau cyrsiau neu hyd yn oed offer mae rhywun ei angen ar gyfer y busnes.
“Mae croeso i unrhyw un sy’n byw o fewn ardal Dyffryn Nantlle wneud cais.
“Mae wedi helpu pobol fel Shoned Owen o Tanya Whitebits Ltd, y person fysech yn mynd ati i gael fake tan.
“Mae wedi helpu, yn ddiweddar, Rebecca Hughes i sefydlu busnes tylino ym Mhwllheli.
“Mae hefyd wedi helpu llawer yn y sector adeiladu, Euros Hughes efo gwaith paneli solar E.H Electrical Contractor, ac yn y blaen.
“Mae hefyd wedi helpu Rhys Glyn Hughes efo R G Groundwork Ltd.
“Mae wedi cadw’r bobol yn yr ardal leol ac wedi rhoi cyfle iddyn nhw gyflogi pobol leol hefyd, sydd yn grêt.
“Mae’n dda i’r economi sylfaenol, a bydd yn helpu efo cynlluniau economi gylchol.
“Mae’n cadw sgiliau a phobol leol yn ardal Dyffryn Nantlle, a chreu budd ar gyfer y gymuned hefyd.”
Sut i wneud cais
Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw Ebrill 14.
Er mwyn gwneud cais, mae angen llenwi ffurflen, cynllun busnes a gwneud rhagolwg llif arian.
Os dydy ymgeiswyr ddim yn siŵr sut i wneud hynny, neu bod angen ychydig o help, fedrith un o gynlluniau eraill Menter Môn, sef yr hwb menter, gynnig cymorth busnes am ddim i ymgeiswyr.
Os oes gan rywun ddiddordeb, maen nhw’n eu hannog i gysylltu â Robat Jones o Antur Nantlle.