Mae’n “drasig” fod gan Gymru rai o’r afonydd â’r lefelau uchaf o garthffosiaeth yn y Deyrnas Unedig, yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

Mae ystadegau gollwng carthion sydd wedi’u cyhoeddi gan Dŵr Cymru wedi sbarduno ymateb chwyrn gan y blaid, sydd wedi cyhuddo Llafur a’r Ceidwadwyr o beidio â gwneud digon i fynd i’r afael â’r broblem.

Mae’r ffigurau’n dangos fod Dŵr Cymru wedi gollwng carthion i afonydd a moroedd Cymru am bron i 600,000 o oriau’r llynedd.

Mae hynny’n gyfystyr â thros 25% o’r holl oriau o ollyngiadau i ddyfroedd Cymru a Lloegr.

Mae’r ffigurau diweddaraf hefyd yn dangos bod yna fwy na 83,000 o ollyngiadau yn 2022, ac roedd 77,000 o’r rheiny’n “sylweddol”.

Ymhlith yr afonydd sydd wedi’u llygru waethaf mae Afon Garw, Afon Tawe, Afon Teifi, Afon Wysg, Afon Rhymni ac Afon Taf sydd i gyd ymhlith yr ugain uchaf yn y Deyrnas Unedig am lefelau carthffosiaeth.

‘Wedi methu ar bob cam i gymryd y mater hwn o ddifrif’

Mae’r Ceidwadwyr eisoes wedi bod dan y lach yn San Steffan am fethu â deddfu i fynd i’r afael â gollwng carthion ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru hefyd wedi cael eu cyhuddo o beidio â buddsoddi ddigon i fynd i’r afael â’r broblem.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi datgan bod y carthion sy’n cael eu gollwng yng Nghymru yn peri risg difrifol i fywyd gwyllt lleol ac iechyd pobol yn ogystal â niweidio diwydiant twristiaeth Cymru, o bosib.

Maen nhw wedi galw ar y Ceidwadwyr i wahardd taliadau bonws i swyddogion gweithredol cwmnïau dŵr, ac i’r arian gael ei ailfuddsoddi mewn gwella seilwaith.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae penaethiaid Dŵr Cymru wedi derbyn dros £1m mewn taliadau bonws, gan gynnwys bron i £400,000 y llynedd yn unig.

“Mae’n drasig fod gan Gymru rai o’r afonydd sy’n llenwi â’r mwyaf o garthffosiaeth yn y Deyrnas Unedig, llawer ohonyn nhw yn fy rhanbarth i, sef Canolbarth a Gorllewin Cymru,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, sy’n Aelod o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

“Gan fy mod yn hanu o’r Gelli Gandryll, dw i’n gweld y cyflwr mae ein hafonydd ynddo erbyn hyn yn drist iawn, rydym wedi gweld drosto’n hunain y Gwy yn dirywio’n ddifrifol mewn iechyd.

“Mae’r Ceidwadwyr wedi methu ar bob cam i gymryd y mater hwn o ddifrif.

“Nawr maen nhw’n disgwyl i’r trethdalwyr dalu i lanhau eu llanast, tra bod swyddogion gweithredol cwmnïau dŵr wedi treulio blynyddoedd yn seiffno arian i dalu bonysau mawr eu hunain.

“Mae gan y Ceidwadwyr y pŵer i wahardd y taliadau bonws hyn ond maen nhw’n gwrthod gwneud hynny.

“Yn y cyfamser, mae Llafur Cymru yn methu â chymryd cyfrifoldeb am sectorau o’r amgylchedd sydd wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru.

“Yn yr un modd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gael ei danariannu.

“Mae angen i ni weld llawer mwy o fuddsoddiad mewn seilwaith gwell gan Lywodraeth Cymru, ac eto dydy o ddim yn ymddangos bod gollwng carthion hyd yn oed ar eu radar, yn hytrach maen nhw’n ymddangos yn benderfynol o feio ffermwyr am iechyd gwael ein hafonydd.”