Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi ymrwymo i weithio â phartneriaid er mwyn adeiladu dros 1,000 o gartrefi er mwyn bodloni’r angen lleol.
Mae cynlluniau i gynyddu’r stoc dai o 4,000 i dros 5,000 o gartrefi wedi’i gynnwys yn y Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai 2023-2053, gafodd eu cymeradwyo gan Aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn gynharach yr wythnos hon.
Bydd yn gweld Gwasanaethau Tai Ynys Môn yn adeiladu 45 o gartrefi Cyngor bob blwyddyn am y 30 mlynedd nesaf er mwyn ceisio bodloni’r galw sylweddol ar gyfer tai cymdeithasol.
Mae’r Cyngor hefyd yn cydweithio’n agos â’u partneriaid, y Cymdeithasau Tai, er mwyn ceisio cynyddu’r ddarpariaeth o stoc tai cymdeithasol sydd ar gael ar yr ynys.
Mae un o’r prosiectau mwyaf yn cynnwys ailddatblygu’r hen Ysgol Thomas Ellis yng Nghaergybi, lle bydd cyfanswm o 45 o gartrefi cymdeithasol yn cael eu hadeiladu erbyn mis Ebrill nesaf.
Mae prosiectau tai cyngor eraill wedi’u cynllunio ar gyfer Amlwch (40 o gartrefi) a Niwbwrch (14 o gartrefi), ynghyd â nifer o brosiectau sylweddol eraill ar draws yr ynys.
Bydd adeiladu stoc tai mwy thermol effeithlon ar Ynys Môn hefyd yn helpu’r Cyngor i gyflawni eu nod carbon sero net erbyn 2030.
Mae cynlluniau hefyd i osod paneli solar ar 250 o dai cyngor presennol y flwyddyn nesaf gyda £1m o fuddsoddiad er mwyn gallu cyflawni addewidion amgylcheddol.
‘Cynyddol anodd i bobol ddod o hyd i gartrefi’
“Rydym yn gweithio’n galed i gynyddu stoc tai y Cyngor ei hun ac i wella ein cartrefi presennol,” meddai Ned Michael, Pennaeth y Gwasanaethau Tai.
“Bu’r Gwasanaeth Tai gomisiynu arolwg o’r holl dai Cyngor yn ddiweddar er mwyn adnabod lle a phryd y gellir gwneud gwelliannau mewn paratoad ar gyfer bodloni’r Safonau Ansawdd Tai Cymru newydd.
“Mae hi’n dod yn gynyddol anodd i bobol ddod o hyd i gartrefi fforddiadwy ar yr ynys yn dilyn y cynnydd mewn prisiau tai ar yr Ynys dros y blynyddoedd diwethaf.
“Bydd ein nod o ddarparu cannoedd o gartrefi newydd ar yr Ynys yn sicrhau y gall trigolion fyw mewn cartrefi fforddiadwy o safon.
“Byddwn yn cyflawni hyn drwy gydweithio’n agos â phartneriaid, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, cymdeithasau tai ac asiantaethau eraill.”
Grant Tai Cymdeithasol
Bydd Ynys Môn yn derbyn £25m dros y tair blynedd nesaf drwy’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol, fydd yn cael ei ddosbarthu rhwng y Cyngor fel awdurdod sydd wedi cadw ei stoc a’i bartneriaid sy’n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (RSL) (Clwyd Alyn, Grŵp Cynefin a Tai Gogledd Cymru).
Gallai cyllid grant helpu i ariannu cyfanswm o 725 o gartrefi fforddiadwy newydd ar yr ynys dros y tair blynedd nesaf.
Yn ogystal, bydd y Cyngor yn parhau i brynu hen eiddo’r Cyngor yn ôl ac mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu Cynllun Gofal Tai Ychwanegol ar gyfer 50 o drigolion yn ystod y cyfnod hwn.
“Mae ein gallu i fodloni’r galw cynyddol am dai fforddiadwy a chefnogi ein trigolion yn hanfodol,” meddai’r Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai.
“Mae gan bawb yr hawl i alw rhywle yn gartref ac mae ein cynlluniau uchelgeisiol yn amlinellu ein hymrwymiad i gyflawni’r addewid hwn.
“Edrychwn ymlaen at weithio â phartneriaid er mwyn datblygu tai mwy fforddiadwy a lleddfu’r galw presennol.
“Mae Cynllun Busnes y Cynllun Refeniw Tai yn sicrhau sail ariannol hyfyw er mwyn gallu cynyddu’r stoc dai a bodloni’r galw cynyddol.
“Rydym hefyd yn credu y gall darparu tai fforddiadwy helpu i ddiogelu a chryfhau’r Gymraeg a dod a buddion economaidd lleol a gwella gallu trigolion i allu prynu neu rentu cartref ar yr Ynys.”