Mae menter i ddatblygu hyfforddiant VR pwrpasol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y Gymraeg a’r Saesneg wedi derbyn £900,000 o gyllid.

Bydd Prifysgol Abertawe, sy’n gyfrifol am y fenter, yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddatblygu’r modiwlau ar gyfer prosiect Virtual Reality a Welsh Reality.

Bydd y modiwlau yn cynnig hyfforddiant i ddysgwyr israddedig a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws Cymru.

Caiff y modiwlau VR eu cynllunio ar gyfer defnydd aml-broffesiynol a byddan nhw’n cynnwys pynciau megis tîm gofal iechyd a sefyllfaoedd cyfathrebu, achosion rheoli brys, achosion empathi cleifion, ac amrywiaeth o sefyllfaoedd yn ymwneud â hyfforddiant gofal iechyd a sesiynau ymarfer sgiliau.

Bydd y modiwlau hefyd yn darparu gwybodaeth ar gyfer prosiect ymchwil sy’n archwilio effeithiolrwydd hyfforddiant rhith-realiti ar draws y proffesiynau iechyd.

Mae’r tîm bellach yn tendro am gwmni datblygu VR arloesol i greu’r modiwlau a byddan nhw hefyd yn gwahodd myfyrwyr ac arbenigwyr gofal iechyd i fod yn rhan o gamau dylunio a threialu’r adeiladu VR.

Maen nhw hefyd wedi ffurfio grŵp ymchwil VR sy’n cynnwys arbenigwyr pwnc, arbenigwyr ymchwil ac asesu, partneriaid bwrdd iechyd, ac aelodau o dîm Efelychu Prifysgol Abertawe (SUSiM).

‘Helpu i dorri’r ffiniau o ran pryd a ble y gall addysg ddigwydd’

Yr Athro Cysylltiol Joanne Davies, Cyfarwyddwr Addysg Efelychu, gyflwynodd y cais llwyddiannus am gyllid i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, sy’n goruchwylio SUSiM.

“Rwyf wrth fy modd ar ran y tîm bod ein cais wedi bod yn llwyddiannus,” meddai.

“Diolch i CCAUC am y gefnogaeth i’n gweledigaeth i ddatblygu rhith-realiti ar gyfer ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol presennol a’r dyfodol.

“Bydd defnyddio VR yn ein galluogi i wella ein hymagweddau dysgu cyfunol at addysg a chynnig y cyfle i hyfforddi unigolion a thimau mewn dull trochi, atyniadol a hyblyg.

“Mae’n fwy perthnasol nag erioed helpu i dorri’r ffiniau o ran pryd a ble y gall addysg ddigwydd, yn enwedig gyda’r pwysau presennol ar bob rhan o’r gwasanaeth.

“Roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig adeiladu a threialu hyfforddiant a ddyluniwyd gan yr academyddion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a myfyrwyr a fydd yn mabwysiadu’r dechnoleg newydd hon wrth ymgorffori safonau addysg efelychu ac ymchwilio i’r effeithiau addysgol o fewn system gymhleth.”

Cynnal enw da Abertawe am ‘arloesi a rhagoriaeth’

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Hywel Dda weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, yn enwedig gan mai efelychu yw prif yrrwr ein Cynllun Addysg Ryngbroffesiynol sydd newydd ei lansio,” meddai Amanda Glanville, Cyfarwyddwr Datblygu Pobol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Bydd y prosiect hwn yn creu llwyfan lle gall byrddau iechyd eraill elwa yn ogystal â rhoi sylfaen gadarn i barhau â thwf addysg ryngbroffesiynol a’r defnydd o efelychu yn ein gweithgareddau o ddatblygu pobol.”

Ychwanega’r Athro Keith Lloyd, Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddorau Bywyd, fod “hwn yn gam pwysig arall ymlaen i ni”.

“Trwy gynnig y diweddaraf mewn hyfforddiant gofal iechyd ac aros ar flaen y gad o ran addysg drochi, rydym yn sicrhau bod Abertawe yn cynnal ei henw da rhyngwladol am arloesi a rhagoriaeth wrth i ni hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr iechyd proffesiynol,” meddai.