Mae Cynghorydd Sir yn Nyffryn Dyfi yn galw am newid arwyddion ffyrdd sy’n “hybu dim mwy nag imperialaeth ddiwylliannol”.
Wrth gyfeirio at y defnydd o’r enw Saesneg ‘Happy Valley’ ar Gwm Maethlon ger Pennal, Machynlleth ac ‘Artists Valley’ am Gwm Einion ger Ffwrnais, dywed Elwyn Vaughan eu bod nhw’n “enwau ffug i blesio twristiaeth”.
Daw ei alwadau ar Gyngor Gwynedd a Cheredigion i newid yr arwyddion wedi i rywun baentio dros yr enw ‘Happy Valley’ ar un arwydd ffordd dros y penwythnos.
Yn sgil canlyniadau’r Cyfrifiad diweddaraf, oedd yn dangos cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg, “rhaid gweithredu ar sawl lefel i sicrhau cynaladwyedd y Gymraeg”, meddai Cynghorydd Plaid Cymru dros ward Glantwymyn ar Gyngor Sir Powys.
“Yma yn Nyffryn Dyfi, ardal sy’n cynnwys rhannau o Bowys, Gwynedd a Cheredigion, mae hynny yn golygu cydweithio a chyd-ddeall trawsffiniol,” meddai wrth golwg360.
“Mi fyddwn yn fuan iawn yn gweld ysgol benodedig Cymraeg newydd ym Machynlleth sydd i’w groesawu, ond mae hefyd angen codi proffil a statws yr iaith.
“Mae’r ardal gyfan wedi’i lleoli oddi fewn i ardal statws Biosffer UNESCO, sy’n rhoi pwyslais ar gynaladwyedd amgylcheddol a bioamrywiaeth, ac eto mae yna ddiffyg enbyd o ran cynaladwyedd y Gymraeg.
“Dyma pam dw i’n galw ar Gyngor Gwynedd a Chyngor Ceredigion i gael gwared ar yr enwau erchyll sy’n bodoli yma ar arwyddion ffyrdd, sef ‘Happy Valley’ am Gwm Maethlon ger Pennal ac ‘Artists Valley’ am Gwm Einion ger Ffwrnais.
“Dydyn nhw’n ddim oll heblaw enwau ffug i blesio twristiaeth, a heb eu gwreiddio nac yn wir adlewyrchu’r ardal.
“Mae’n esiampl bellach o imperialaeth ddiwylliannol sy’n rhaid ei newid.”
‘Y Gymraeg yn fyw ar lafar gwlad’
Mae sylw gan Elwyn Vaughan ar Facebook wedi ennyn cryn drafodaeth, gyda sawl un yn nodi bod yr enw ‘Happy Valley’ yn hŷn na Chwm Maethlon, mewn gwirionedd.
Dyffryn Gwyn oedd yr enw gwreiddiol ar yr ardal, ac mae’r enw Saesneg ‘Happy Valley’ yn deillio o gyfnod y Fictoriaid.
Yn ôl yr awdur Manon Steffan Ros, cafodd Capel Maethlon yn y cwm ei enwi ar ôl fferm Erw Faethlon, ac ar ôl hynny y daeth Cwm Maethlon.
“Cymerwyd cam cadarnhaol yn ddiweddar gan Barc Cenedlaethol Eryri yn cadarnhau Y Wyddfa fel enw swyddogol, bellach mae angen gwneud yr un fath efo’r ddau gwm yma a sicrhau bod y Gymraeg yn fyw ar lafar gwlad – neu efo amser angof fydd yr enwau cynhenid a ffug rhamantiaeth dwristaidd fydd yn gorfudd a thrwy hynny byddwn yn colli rhan bellach o’n bioamrywiaeth naturiol,” meddai Elwyn Vaughan.
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: “Mae’r A487 rhwng Aberystwyth a Machynlleth yn gefnffordd ac felly yn dod o dan gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd am ymateb.