Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod deuddeg o gynghorau yng Nghymru’n torri’r gyfraith mewn perthynas â lleoliadau ar gyfer plant mewn gofal.
Maen nhw’n dweud bod ymchwil yn dangos bod o leiaf ugain o blant wedi cael eu gosod mewn lleoliadau sydd heb eu cofrestru.
Mae o leiaf 16 o blant dan 16 oed hefyd yn cael eu gosod mewn lleoliadau sydd heb eu rheoleiddio, meddai’r blaid, gan ychwanegu bod hynny wedi cael ei wahardd yn Lloegr ond yn parhau yng Nghymru.
Dangosodd yr ymchwil fod gan dri chyngor blant mewn lleoliadau heb eu rheoleiddio yn unig, mae gan bedwar cyngor blant mewn lleoliadau heb eu cofrestru, ac mae gan wyth cyngor blant yn y ddau.
Lleoliadau heb eu cofrestru yw lleoliadau gofal sydd heb eu cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru, ac mae hi’n anghyfreithlon gosod plant dan 16 oed yn y fath leoliadau.
Yn ôl y sector, mae’r lleoliadau hyn yn aml yn cael eu defnyddio yn sgil problemau brys â lleoliad blaenorol, neu am nad oes modd dod o hyd i leoliad addas ar gyfer gofal maeth, gofal preswyl neu leoliad diogel.
Dim ond fel ateb terfynol pan nad oes opsiwn arall y dylid defnyddio’r fath leoliadau, a dim ond am amser byr.
Ystyr lleoliadau heb eu rheoleiddio yw lleoliadau gofal nad ydyn nhw’n cael eu rheoleiddio o dan ddeddfwriaeth gafodd ei phasio yn 2016, sy’n golygu bod modd i bobol ifanc fyw mewn llety nad yw’n darparu gofal ac felly does dim rhaid ei fod wedi’i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Mae’r math o lety sy’n cael ei ddarparu hefyd yn amrywio’n fawr, ac yn ôl y Gwasanaeth Eirioli Ieuenctid Cenedlaethol, dylid gwahardd gosod plant dan 16 mewn lleoliadau heb eu rheoleiddio, fel sy’n wir ar gyfer plant hyd at 15 oed yn Lloegr ers mis Medi 2021.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio cynnig ateb i’r sefyllfa ar gyfer pob lleoliad sydd heb ei reoleiddio erbyn 2024.
‘Pryderus dros ben’
“Rydym yn bryderus dros ben o weld cynifer o gynghorau’n torri’r gyfraith pan ddaw i blant mewn lleoliadau heb eu cofrestru a heb eu rheoleiddio,” meddai Gareth Davies, llefarydd gofal cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig.
“Dydy Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig ddim yn caniatáu’r arfer olaf o’r rhain yn Lloegr, ond yng Nghymru mae nifer o blant mewn perygl o bosib.
“Yn wyneb y trasiedïau ingol diweddar megis marwolaethau Logan Mwangi a Kaylea Titford, mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n cael hyn yn iawn, yn cydweithio â’r cynghorau hyn a bod diogelwch plant ym mlaen ein meddyliau.
“Mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru gamu i mewn i fynd ar ôl yr achosion unigol hyn a sicrhau bod rheoliadau’n cael eu gorfodi a’u bod nhw’n gydradd â’r Deyrnas Unedig.
“Does dim angen unrhyw wyriadau.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Mewn argyfwng, gallai fod gofyn defnyddio lleoliad sydd heb ei gofrestru er mwyn darparu’r math cywir o ofal a chefnogaeth i berson ifanc pan nad oes lleoliad arall ar gael,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae awdurdodau lleol yn sicrhau bod pob darparwr yn cael ei fetio a’i gymeradwyo yn unol â’r safonau angenrheidiol ac, os bydd y lleoliad yn dod yn opsiwn tymor hirach i’r person ifanc, bydd yr awdurdod lleol yn cymryd camau i sicrhau bod lleoliadau o’r fath yn cael eu cofrestru’n briodol.
“Trwy ein Rhaglen Lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i newidiadau radical mewn gwasanaethau i blant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal.
“Fel rhan o’r uchelgais hon, byddwn yn cael gwared ar wneud elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, yn cryfhau’r cyfrifoldebau rhianta corfforaethol ac yn ariannu gwasanaethau eiriolaeth i rieni ledled Cymru.
“Gyda’i gilydd, bydd yr ymrwymiadau hyn yn trawsnewid Gwasanaethau Plant fel eu bod yn gallu darparu’r gefnogaeth a’r amddiffyniad gorau i blant agored i niwed yng Nghymru.”