Bydd rhaid i Chwarae Teg ailedrych ar eu strwythur a’u strategaeth yn sgil colli arian yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl yr elusen cydraddoldeb rhywedd.
Ynghyd â hynny, bydd hanner eu gweithwyr – 24 o aelodau – yn colli eu swyddi ddiwedd mis Mai.
Ers dros ddegawd, mae’r elusen wedi elwa yn sgil grantiau gan yr Undeb Ewropeaidd, ac o ganlyniad i’r arian mae dros 4,300 o fenywod wedi cymryd rhan mewn rhaglenni datblygu gyrfa.
Bydd y mudiad yn parhau i dderbyn peth cyllid gan Lywodraeth Cymru, a byddan nhw’n gallu cario ymlaen i ymchwilio a chynnig cyngor ar bolisïau llywodraethau, a gweithio gydag ysgolion i annog mwy o ferched i ddilyn gyrfa ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.
Byddan nhw hefyd yn parhau i allu rhedeg Gwobrau Womenspire, sy’n cydnabod llwyddiannau merched dros Gymru.
Ar ôl Brexit, cafodd y Gronfa Ffyniant Gyffredin ei sefydlu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i drio llenwi’r bwlch ariannol ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Fodd bynnag, mae’n rhaid gwneud cais am arian o’r gronfa ar lefel ranbarthol neu leol felly mae’n annhebygol y bydd y gronfa’n llenwi’r bwlch ar gyfer cynlluniau sy’n weithredol dros Gymru gyfan.
‘Sefyllfa heriol’
O ganlyniad i golli arian, does dim dewis i’r mudiad ond lleihau, meddai Lucy Reynolds, y Prif Weithredwr newydd.
Dechreuodd ei swydd ym mis Chwefror, ac roedd y penderfyniad i ailstrwythuro a chwtogi staff wedi’i wneud cyn hynny.
“Mae’r sefydliad mewn sefyllfa anodd a heriol ar hyn o bryd,” meddai wrth golwg360.
“O ganlyniad i Brexit, mae arian yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi bod yn cyllido rhan enfawr o waith yr elusen gyda merched, i gyd yn dod i ben ym mis Mai.
“Yn anffodus mae hynny’n golygu ein bod ni mewn sefyllfa lle mae’n rhaid i ni ffarwelio â rhai aelodau o’r staff, ac mae’r sefydliad yn mynd drwy gyfnod o dynnu’n ôl.
“Roeddwn i’n gwbl ymwybodol o hynny pan wnes i ymuno.
“Mae’r [bwrdd] yn cydnabod bod angen i’r sefydliad ddod yn fwy masnachol, fel mae nifer o elusennau’n trio’i wneud rŵan.”
‘I gyd er mwyn cefnogi menywod’
Gweledigaethau Lucy Reynolds ydy sicrhau bod yr elusen yn gynaliadwy, a’u bod nhw’n gwneud gwahaniaeth i fywydau menywod yng Nghymru.
“Fyddan ni’n mynd drwy’r cyfnod hwn lle mae’r sefydliad yn lleihau. Fyddan ni ddim yn fach ofnadwy, ond mi fyddan ni’n llai nag ydyn ni wedi bod,” meddai.
“Rydyn ni’n adolygu beth yw ein prif bwrpas, pam ein bod ni’n bodoli, be ydyn ni eisiau llwyddo i’w wneud.
“Fyddan ni’n mynd drwy broses o ailedrych ar y pwrpas yna ac ailddatblygu ein strategaeth yn unol â maint y sefydliad fel ein bod ni’n gallu gwneud y gorau o’n hadnoddau a llwyddo efo’r pethau rydyn ni’n gwybod fydd yn gwneud gwahaniaeth i fenywod yng Nghymru – yn hytrach na gwneud lot o bethau i fenywod.
“Fyddan ni’n ail-ffocysu pobol ar y prif flaenoriaethau.
“Dyna’r dasg i fi, mae’n rhaid i ni ddod yn fwy cynaliadwy o ran incwm, trio dod o hyd i ffynonellau eraill i greu incwm, a gwneud yn siŵr bod y gangen fasnachol yn llwyddo ac yn dod â’r incwm yna i’r elusen.
“Ond mae hynny i gyd er mwyn cefnogi menywod yng Nghymru, a fedrwn ni ddim colli ein golwg ar hynny.
“Dyna pam ein bod ni am ailystyried beth yw ein pwrpas, beth yw ein nod, a sicrhau bod ein holl weithgareddau’n ein gyrru ni ymlaen at y prif bwrpas yna.”