Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, wedi cyhoeddi bod Creo Medical Limited o Sir Fynwy yn ehangu, ac y bydd yn creu 85 o swyddi â chyflogau da dros gyfnod o dair blynedd.

Daw hyn ar ôl i’r cwmni gael buddsoddiad o £708,000 gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r cwmni dyfeisiau meddygol uwch-dechnoleg yn arbenigo ym maes endosgopi llawfeddygol.

Mae’r maes hwn yn un sy’n prysur ddatblygu ac mae’n helpu llawfeddygon i gynnal llawdriniaethau sy’n creu archoll mor fach â phosibl drwy ddefnyddio ynni microdonnau ac ynni tonnau radio.

Mae disgwyl i’r cwmni o Gas-gwent adeiladu canolfan weithgynhyrchu ac ymchwil a datblygu newydd ar eu safle presennol.

Bydd yn defnyddio buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Dyfodol yr Economi i fuddsoddi mewn ehangu adeiladau a chyfarpar gweithgynhyrchu o’r radd flaenaf.

Mae arloesi ym maes technolegau meddygol newydd er budd cleifion yn rhan allweddol o Strategaeth Arloesi newydd Llywodraeth Cymru, gafodd ei lansio ym mis Chwefror.

‘Arloesi mewn technolegau ar flaen y gad’

“Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu busnesau fel Creo Medical i arloesi ym maes technolegau sydd ar flaen y gad, ac a fydd yn gwella gofal iechyd ac yn rhoi hwb i’n heconomi ar yr un pryd,” meddai Vaughan Gething.

“Mae Creo Medical yn gwmni sydd wedi hen ennill ei blwyf ac mae’n gyflogwr pwysig yn ne-ddwyrain Cymru.

“Rwy’n falch iawn o fedru dweud y bydd ein cymorth ni yn ei helpu i dyfu hyd yn oed yn fwy ac i greu cynifer o swyddi newydd tra medrus.

“Ein nod yw creu Cymru decach, wyrddach, a mwy llewyrchus.

“Mae’n cefnogaeth i Creo Medical yn arwydd arall o’r nod hwnnw. Bydd yn hwb hanfodol i’r economi leol.”

‘Cyfnod cyffrous’

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Creo Medical wrth inni fynd ati i weithgynhyrchu ac i fasnacheiddio mwy o gynhyrchion gwahanol, gan hwyluso’r gwaith o drin mwy a mwy o gleifion ar draws y byd drwy’n technoleg arloesol,” meddai Craig Gulliford, Prif Weithredwr Creo Medical.

“Bydd y cyllid hwn oddi wrth Lywodraeth Cymru yn ein helpu i barhau i dyfu a bydd yn sicrhau ein bod yn gallu adeiladu tîm yn ein pencadlys a’n safle gweithgynhyrchu ehangach yng Nghas-gwent, gan gadarnhau lle Creo Medical a Chymru fel arweinwyr byd-eang ym maes technoleg feddygol.”