Gallai bron i 900 o nyrsys gael eu recriwtio o dramor o fewn pedair blynedd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i fynd i’r afael â phrinder yn y gweithlu ac i staffio theatrau llawfeddygol newydd.

Dywed adroddiad fod y bwrdd iechyd ar eu ffordd tuag at gyflogi 350 o nyrsys o dramor yn 2022-23, wedi iddyn nhw gyrraedd y targed o 130 y flwyddyn gyntaf, a dod yn agos at gyrraedd y targed o 60 y flwyddyn gyntaf.

Daw nifer ohonyn nhw o Kerala yn ne-orllewin India.

Ac mae disgwyl i 350 yn rhagor gael eu recriwtio o dramor yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol, yn ddibynnol ar sêl bendith y prif weithredwr Mark Hackett.

Gwneud digon i recriwtio?

Fe wnaeth graddau’r recriwtio arwain at gwestiynau yn ystod cyfarfod bwrdd ynghylch a yw Abertawe a Chymru’n gwneud digon i hyfforddi nyrsys o’r wlad hon, ac a all gwasanaethau iechyd mewn llefydd fel Kerala ddioddef o ganlyniad i nyrsys yn gadael ar raddfa fawr.

Dywed Gareth Howells, cyfarwyddwr nyrsio a phrofiadau cleifion, fod recriwtio o dramor yn rhoi “staff profiadol iawn ar unwaith” i’r bwrdd iechyd.

“Wyddoch chi, dydy pobol ddim eisiau bod yn nyrsys,” meddai wrth gyfeirio at y sefyllfa yn nes at adref.

“Os edrychwn ni ar raddfa’r athreuliad o fewn hyfforddi’n lleol, a’r ffaith fod yna lefydd dros ben am y tro cyntaf, dw i’n meddwl fod gennym ni ragor i’w wneud ar y cyfan i ganu clodydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”

Gostyngiad mewn ceisiadau

Clywodd y cyfarfod fod ymdrech yn cael ei gwneud gan y bwrdd iechyd, sy’n cwmpasu Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, a Llywodraeth Cymru i hyfforddi a chadw mwy o staff gartref.

Ond mae lle i gredu bod 27% o lefydd ar gyrsiau iechyd yn wag.

Yn ôl yr Athro Keith Lloyd, sy’n aelod o’r bwrdd ac yn Ddeon y Gyfadran Feddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe, mae llai o broblem yn ardal Abertawe nag mewn ardaloedd eraill yn y wlad.

“Am y tro cyntaf erioed, rydym wedi gweld gostyngiad yn y ceisiadau nyrsio,” meddai, serch hynny.

Bob blwyddyn, mae nyrsys o Gymru’n gorffen eu hyfforddiant ac yn dechrau ar eu gyrfaoedd, ond mae angen mwy ohonyn nhw o hyd ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Maen nhw’n cyflogi bron i 4,200 o nyrsys a bydwragedd, a mwy na’u hanner nhw mewn swyddi Band 5.

Mae bron i 300 o swyddi Band 5 gwag ar hyn o bryd, yn ôl un dull o gyfrifo.

“Rydym yn gwbod fod gennym weithlu nyrsio sy’n heneiddio, gyda 1,322 o nyrsys a bydwragedd dros 51 oed ar hyn o bryd allai ymddeol yn fuan iawn neu dros y blynyddoedd nesaf,” meddai adroddiad y bwrdd iechyd.

Llenwi bylchau

Mae nyrsys asiantaeth a banc nyrsys y bwrdd iechyd yn helpu i lenwi bylchau, sydd mor uchel â 40% mewn gofal aciwt a llawfeddygol.

Mae ceisio recriwtio o dramor yn opsiwn rhatach, er gwaethaf costau recriwtio tymor byr o ryw £9,000 y pen ar gyfer pob nyrs.

Dywed yr adroddiad fod nyrsys o dramor wedi cael cynnig cytundeb Band 5, gyda chyflog cychwynnol o £27,055 ond eu bod nhw cael cynnig cyflog Band 4 hyd nes eu bod nhw wedi cofrestru yn y Deyrnas Unedig.

Arhosodd rhai ohonyn nhw mewn llety myfyrwyr ac mewn llety yn yr ysbyty.

“Mae nifer o’r nyrsys wedi gadael plant a gwŷr neu wragedd ar ôl,” meddai’r adroddiad.

“Mae gofyn i’r nyrsys symud allan o’r llety dan reolaeth yr ysbyty, dim ond pan fyddan nhw wedi ymgartrefu ac wedi dechrau yn eu swyddi Band 5.

“Hyd yn hyn, mae’r holl nyrsys wedi llwyddo i ddod o hyd i lety addas i’w rentu gan landlordiaid lleol.

“Ar y cyfan, mae gwerthusiad o’u profiadau’n dangos bod y nyrsys yn teimlo bod croeso iddyn nhw a’u bod nhw’n cael eu cefnogi’n dda yn y bwrdd iechyd.”

Ychwanegodd mai dim ond tair nyrs o dramor sydd wedi gadael y bwrdd iechyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Lleihau’r gweithlu yn Kerala?

Dywedodd yr Athro Keith Lloyd fod gan Kerala weithlu â sgiliau o safon uchel ond ei fod e eisiau gwybod a oes yna bryder o ran ei “leihau”.

Dywedodd Gareth Howells fod y cwmni recriwtio sy’n cael ei ddefnyddio gan y bwrdd iechyd yn cydweithio’n agos â gwasanaethau iechyd yn Kerala er mwyn sicrhau nad yw hynny’n digwydd.

Dywedodd Debbie Eyitayo, cyfarwyddwr datblygu’r gweithlu a’r sefydliad, fod gan Lywodraeth Cymru gytundeb ar waith gyda’r llywodraeth yn Kerala ynghylch cyflenwi nyrsys, a bod rhai gwledydd yn hyfforddi staff iechyd i weithio dramor.

Byddai’n costio oddeutu £4.7m i gyflogi 350 o nyrsys o dramor yn 2023-24, ond byddai hyn yn arbed £1.5m mewn costau asiantaethau a banc nyrsys.

Dywedodd y bwrdd iechyd wrth Wasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol eu bod nhw’n recriwtio o’r Ffilipinas, Affrica a’r Caribî yn ogystal ag India.

Pan ofynnwyd a yw’r categori tramor yn eithrio nyrsys o’r Undeb Ewropeaidd, dywedodd llefarydd nad yw’n eithrio ceisiadau o’r Undeb Ewropeaidd ond fod y bwrdd iechyd yn derbyn “ychydig iawn o’r rhain”.