Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn dweud bod “neges Dr Martin Luther King Jr yn fwy perthnasol nag erioed”.
Daw sylwadau Sioned Williams 55 mlynedd union i’r diwrnod ers i’r ymgyrchydd hawliau sifil gael ei lofruddio.
Yn fab i weinidog y Bedyddwyr Americanaidd, roedd Martin Luther King Jr yn un o’r arweinwyr hawliau sifil amlycaf yn yr Unol Daleithiau o 1955 hyd at ei farwolaeth yn 1968.
Fe ddefnyddiodd e ddulliau di-drais ac anufudd-dod sifil o geisio hawliau i bobol ddu yn y wlad, ac yntau wedi’i ysbrydoli gan Mahatma Gandhi.
Arweiniodd e nifer o brotestiadau heddychlon dros y blynyddoedd, gan gynnwys boicot bws Montgomery yn 1955 a phrotestiadau heddychlon yn Alabama yn 1963, y flwyddyn pan draddododd ei araith enwog am ei freuddwyd ger cofeb Lincoln.
Arweiniodd ei waith at Ddeddf Hawliau Sifil 1964, y Ddeddf Hawliau Pleidleisio yn 1965 a’r Ddeddf Tai Teg yn 1968.
Enillodd e Wobr Heddwch Nobel yn 1964.
Adeg ei farwolaeth ym Memphis, Tennessee yn 1968, roedd e’n trefnu i feddiannu Washington DC fel rhan o Ymgyrch y Bobol Dlawd, ond cafodd ei ladd ar Ebrill 4.
Arweiniodd ei farwolaeth at derfysgoedd mewn nifer o ddinasoedd ar draws yr Unol Daleithiau.
Enillodd e sawl gwobr yn dilyn ei farwolaeth, a chafodd Diwrnod Cenedlaethol ei sefydlu yn ei enw yn 1971, gyda channoedd o strydoedd bellach yn dwyn ei enw hefyd.
Neges Sioned Williams
“Gallwn ni byth ildio i gasineb ac ofn,” meddai Sioned Williams wrth rannu neges oddi ar dudalen Canolfan Martin Luther King Jr ar Twitter.
“Darllenais heddiw am grwpiau hiliol, ffasgaidd yn cynllunio gorymdaith yn Abertawe.
“Wrth i ni nodi’r diwrnod y cafodd ei lofruddio, mae neges Dr Martin Luther King Jr yn fwy perthnasol nag erioed.”
Yn ôl yr ymgyrchydd hawliau sifil, “mae anghyfiawnder yn unrhyw le yn fygythiad i gyfiawnder ym mhob man”.
Dywedodd ein bod ni’n “cael ein dal mewn rhwydwaith nad oes modd dianc rhagddo o gydymddibyniaeth, wedi’i glymu mewn un dilledyn o ffawd” a bod “beth bynnag sy’n effeithio ar un yn uniongyrchol yn effeithio ar bawb yn anuniongyrchol”.
https://twitter.com/Sioned_W/status/1643183872408944640
Arddangosfa’n archwilio perthnasedd ymgyrchwyr hawliau sifil i Gymru heddiw