Mae coroni Charles III yn Frenin Lloegr “yn gyfle i ddod â chymunedau ynghyd”, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, sy’n ei alw’n “siaradwr Cymraeg”.

Mae Sam Rowlands, llefarydd llywodraeth leol y blaid, a Tom Giffard, y llefarydd diwylliant, twristiaeth a chwaraeon, wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol yng Nghymru i’w hannog i fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd ddaw yn sgil y digwyddiad fis nesaf (Mai 6).

Dywed Sam Rowlands y dylai cynghorau lleol ddarlledu’r digwyddiad a hwyluso digwyddiadau eraill dros y penwythnos hwnnw.

Yn ôl Tom Giffard, mae’r coroni’n “eiliad bwysig i Gymru” gan fod “ein brenin newydd yn siaradwr Cymraeg”.

‘Cyfle i ddod â’r gymuned ynghyd’

“Mae gan gynghorau’r cyfle i ddod â’r gymuned ynghyd i ddathlu coroni ein Brenin,” meddai Sam Rowlands.

“Dylai’r awdurdodau gynnal darllediad, ochr yn ochr â gweithgareddau eraill, gan hwyluso penwythnos gŵyl banc i’w gofio.

“Mae gan gynghorau gyfrifoldeb i hyrwyddo’r coroni ac annog cyfranogiad y gymuned ynddo ledled Cymru, ac mae’r fath achlysur mawreddog yn gyfle gwych i gynghorau godi hwyliau’r gymuned.”

‘Fe fu gan Gymru gysylltiadau cryf â’r frenhiniaeth erioed’

“Fe fu gan Gymru gysylltiadau cryf â’r frenhiniaeth erioed,” meddai Tom Giffard.

“Gyda’n Brenin newydd yn siaradwr Cymraeg, mae’r coroni yma’n eiliad bwysig i Gymru.

“Rhaid i gynghorau sicrhau bod lleoliadau ledled Cymru’n sgrinio seremoni’r coroni a chyngerdd y coroni’n fyw.

“Bydd llygaid y byd ar Abaty Westiminster ar Fai 6; gadewch i ni sicrhau bod [llygaid] Cymru gyfan hefyd.”

Bydd y BBC yn atal ffi’r drwydded deledu ar gyfer lleoliadau cyhoeddus dros y penwythnos hwnnw, gan gynnwys cyngerdd y coroni hefyd.