Mae mam a’i phartner wedi’u cael yn euog yn Llys y Goron Abertawe o ladd merch fach ddwy oed yn eu cartref yn Hwlffordd.
Cafodd Lola James 101 o gleisiau a marciau ar ei chorff, difrod i’w llygaid a niwed sylweddol i’w hymennydd.
Bu farw’r ferch fach yn yr ysbyty bedwar diwrnod ar ôl ymosodiad oedd wedi achosi anafiadau “catastroffig” i’w phen fis Gorffennaf 2020.
Roedd ei llystad yn gwadu ei llofruddio, fisoedd yn unig ar ôl symud i fyw yng nghartre’r teulu.
Roedd yn honni bod y ferch fach wedi cwympo i lawr y grisiau ar ôl i’w ci neidio arni.
Roedd ei mam, Sinead James, wedi gwadu achosi niwed a galluogi rhywun arall i achosi niwed i’w merch fach.
Clywodd y llys fod Kyle Bevan yn cymryd y cyffur sbeis yn rheolaidd, a’i fod e wedi ceisio celu’r hyn roedd e wedi’i wneud i’r ferch fach yn hytrach na ffonio am ambiwlans.
Nid dyna’r tro cyntaf iddi gael anafiadau yng ngofal ei llystad, wrth i’r llys glywed ei bod hi wedi dioddef anafiadau i’w thrwyn, ei llygaidd a’i gwefus yn y gorffennol.
Clywodd y llys hefyd fod Sinead James yn cysgu adeg yr ymosodiad arweiniodd at farwolaeth ei merch, ond ei bod hi wedi methu amddiffyn y ferch fach wrth iddi “flaenoriaethu ei pherthynas… dros ddiogelwch corfforol ei merch”.
Bydd y ddau yn cael eu dedfrydu ar Ebrill 25.