Mae arweinydd plaid Mebyon Kernow yn galw ar wleidyddion i gydweithio er mwyn sicrhau “datganoli ystyrlon” i Gernyw.
Daw galwadau Dick Cole yn dilyn cadarnhad na fydd arweinydd Cyngor Cernyw yn parhau â’r cynnig i gael maer sydd wedi’i ethol yn uniongyrchol.
Roedd y cynnig yn ymwneud â “chytundeb datganoli” Lefel 3 Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gafodd ei feirniadu gan Mebyon Kernow am fethu â sicrhau datganoli tebyg i’r hyn sydd yng Nghymru a’r Alban.
Yn hytrach, fe fydd Linda Taylor, arweinydd Cyngor Cernyw, yn argymell cytundeb Lefel 2 fydd yn “wannach fyth”, meddai Mebyon Kernow.
‘Testun siom’
“Roedd hi’n destun siom fod y ‘cytundeb datganoli’ oedd ar gael i bobol Cernyw heb bwerau datganoli, tra bod y cynnig ar gyfer ’maer llywodraeth leol’ wedi ennyn cryn dipyn o wrthwynebiad,” meddai Dick Cole.
“Fel cenedl Geltaidd hanesyddol, mae angen datganoli ystyrlon ar Gernyw.
“Nawr fod y weinyddiaeth Geidwadol yn Truru wedi camu’n ôl o’r ‘cytundeb’ presennol, does bosib ei bod hi’n bryd i bob gwleidydd yng Nghernyw ddod ynghyd i adeiladu achos grymus dros ddatganoli ystyrlon, yn debyg i’r hyn sydd yn rhannau Celtaidd eraill y Deyrnas Unedig.”
Cyn y cyhoeddiad diweddaraf, roedd Mebyon Kernow wedi cyflwyno cynnig yn barod ar gyfer cyfarfod nesa’r Cyngor Llawn ar Ebrill 18, ac roedd hwnnw wedi ennyn cefnogaeth drawsbleidiol.
Tynnodd y cynnig sylw at statws Cernyw fel lleiafrif cenedlaethol, sy’n golygu y dylai gael “yr un statws… â phobol Geltaidd eraill y Deyrnas Unedig, sef yr Albanwyr, y Cymry a’r Gwyddelod”.
Roedd hyn, meddai’r blaid, yn “ymrwymiad eang” oedd yn rhoi sylw i ddiwylliant, iaith, treftadaeth, addysg, tiriogaeth a bywyd cyhoeddus.
Dywed y blaid fod y cytundeb yn gyfystyr â chytundeb rhwng llywodraeth leol ac awdurdodau Cernyw, yn hytrach na setliad datganoli ystyrlon fel sydd yng Nghymru a’r Alban.
Mae’r cynnig hefyd yn galw am “gyfarfod brys” rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol a chynrychiolwyr trawsbleidiol o Gyngor Cernyw.