Mae Catalwnia ymhlith y gwledydd cyntaf i gymeradwyo cyfyngiadau ar feddalwedd ysbïo.
Yn ystod cyfarfod y Cabinet, penderfynodd y llywodraeth gyflwyno moratoriwm ar raglenni megis Pegasus, gafodd ei defnyddio i ysbïo ar 65 o unigolion o fewn y mudiad annibyniaeth rhwng 2017 a 2020.
Cafodd y sefyllfa, sy’n cael ei hadnabod fel ‘Catalangate’, ei datgelu gan CitizenLab, sefydliad ym Mhrifysgol Toronto sy’n gweithio ym maes camddefnyddio technoleg i dorri hawliau dynol.
Mae’r camau sydd wedi’u cymryd yn effeithio ar allforio, gwerthu, trosglwyddo a defnyddio rhaglenni megis Pegasus hyd nes bod sicrwydd eu bod nhw’n cydymffurfio â hawliau dynol.
Yn ôl y llywodraeth, nod y camau yw cyfrannu at y ddadl fyd-eang sy’n ymwneud â gwarchod hawliau dynol yn wyneb bygythiadau digidol megis seibr-ysbïo.
Datganiad Genefa
Fis Medi y llynedd, cyflwynodd Victòria Alsina, gweinidog tramor Catalwnia ar y pryd, a’r grŵp hawliau sifil digidol Access Now, Ddatganiad Genefa ar oruchwylio a hawliau dynol oedd yn galw am reoleiddio’r diwydiant meddalwedd ysbïo rhyngwladol.
Yn y cytundeb sydd wedi’i gyhoeddi, mae’r llywodraeth yn dweud eu bod nhw am weithredu ar sail Datganiad Genefa.
Mae Catalwnia yn dilyn yn ôl traed yr Unol Daleithiau wrth gyfyngu ar y defnydd o Pegasus.
Daw hyn ar ôl i’r Arlywydd Joe Biden lofnodi gorchymyn yn atal “y defnydd gweithredol gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau o feddalwedd ysbïo masnachol sy’n peri risg i ddiogelwch cenedlaethol neu sydd wedi’i gamddefnyddio gan actorion tramor i alluogi camdrin hawliau dynol ledled y byd”.
Unol Daleithiau’n crybwyll Catalangate
Fe wnaeth yr Unol Daleithiau grybwyll Catalangate mewn adroddiad hawliau dynol y llynedd, gan egluro casgliadau’r Citizen Lab fis Ebrill.
Dywed yr adroddiad fod nifer o unigolion blaenllaw wedi cael eu targedu, gan gynnwys cyn-arlywyddion, Aelodau o Senedd Ewrop, aelodau’r farnwriaeth, ymgyrchwyr a gwleidyddion amrywiol.
Dywed yr adroddiad fod Paz Esteban, cyfarwyddwr cudd-wybodaeth Sbaen ar y pryd, wedi cyfaddef hacio ffonau symudol 18 o arweinwyr mudiad annibyniaeth Catalwnia, ond fod hynny wedi digwydd dan awdurdod barnwrol.