Roedd dydd Mawrth (Ebrill 4) yn “ddiwrnod hanesyddol yn NYC”, yn ôl y newyddiadurwraig o Gymru, Maxine Hughes.

Roedd hyn wrth i Donald Trump, cyn-Arlywydd 76 oed yr Unol Daleithiau, fynd gerbron llys yn Efrog Newydd i bledio’n ddieuog i 34 o gyhuddiadau o ffugio dogfennau busnes.

Mae wedi’i gyhuddo o dalu dwy ddynes – yr actores bornograffi Stormy Daniels a’r fodel Karen McDougal – i’w tawelu nhw yn dilyn honiadau’n ymwneud â pherthynas rywiol gafodd e â’r ddwy ohonyn nhw.

Yn ôl y llys, fe wnaeth y cyn-arlywydd dorri rheolau etholiadol drwy gynllun i atal gwybodaeth rhag cael ei chyhoeddi allai fod wedi niweidio’i obeithion o ennill yr etholiad arlywyddol yn 2016.

Dyma’r tro cyntaf i arlywydd neu gyn-arlywydd wynebu cyhuddiadau troseddol, ond mae ei gyfreithwyr yn dweud y byddan nhw’n “brwydro’n galed” yn erbyn y cyhuddiadau.

Bydd e’n mynd gerbron y llys eto ar Ragfyr 4.

Tystiolaeth

Cafodd rhywfaint o dystiolaeth ei recordio yn dilyn sgwrs ym mis Medi 2016, pan oedd e a’i gyfreithiwr yn trafod sut i dawelu straeon am berthynas y tu allan i briodas.

“Beth sy’n rhaid i ni ei dalu am hyn?” meddai yn y recordiad.

Yn ôl erlynwyr, roedd dogfennau’n ymwneud â’r sefyllfa yn nodi bod yr arian wedi’i dalu fel rhan o “gytundeb cadw” ond mae wedi’i gyhuddo o ffugio cyfrifon ei gwmni eiddo gyda’r bwriad o gyflawni twyll ariannol.

Er gwaetha’r cyhuddiadau, mae Donald Trump yn bwriadu sefyll fel ymgeisydd arlywyddol unwaith eto y flwyddyn nesaf.

Pe bai’n cael ei ganfod yn euog, mae’r troseddau gyda’i gilydd yn deilwng o gyfanswm o 100 mlynedd o garchar yn ôl cyfreithiau Efrog Newydd, ond mae’n debygol y byddai’r ddedfryd go iawn dipyn llai na hynny.

Gall rhywun gael blwyddyn o garchar am ffugio dogfennau, ond mae’n codi i bedair blynedd os oes yna fwriad i gelu trosedd arall.

Clywodd y llys am daliad o $130,000 i Stormy Daniels yn ystod ymgyrch arlywyddol 2016, a dywedodd hi ei bod hi wedi’i thalu i gadw’n dawel am ei pherthynas rywiol â Donald Trump mewn gwesty yn 2006.

Mae’n gwadu cael perthynas rywiol â’r un o’r ddwy ddynes dan sylw, ond mae’n cyfaddef iddo dalu ei gyn-gyfreithiwr ar ôl iddo honni ei fod e wedi chwarae rhan yn yr helynt wrth dalu’r ddwy ddynes a bod y cyn-arlywydd wedi ad-dalu’r arian iddo.

Yn ôl cyfreithiwr Donald Trump, fyddai aelod cyffredin o’r cyhoedd ddim yn wynebu’r fath gyhuddiadau.

Does dim disgwyl achos llys am o leiaf flwyddyn arall, ac mae’n annhebygol y bydd yr helynt yn ei atal rhag sefyll i fod yn arlywydd eto.

Mae e hefyd yn wynebu ymchwiliad arall gan erlynydd Democrataidd yn nhalaith Georgia i honiadau ei fod e wedi ceisio’n anghyfreithlon i wyrdroi canlyniad yr etholiad arlywyddol yn 2020.

Mae dau ymchwiliad arall ar y gweill gan Adran Gyfiawnder yr Unol Daliethiau i ymdrechion i wyrdroi’r canlyniad a’r ffordd y gwnaeth e ymdrin â dogfennau cyfrinachol ar ôl gadael ei swydd.