Mae ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau yn dweud nad oes “dim outlet creadigol i’r Gymraeg yn Llandysul”.
Yn yr hen ddyddiau, roedd y celfyddydau’n gryf yn yr ardal, yn enwedig y theatr.
Serch y diffyg darpariaeth drwy’r Gymraeg, mae Lleucu Meinir a chriw o bobol wedi bod yn gwneud ymdrech efo’r celfyddydau drwy’r iaith yn Llandysul, ac mae cynlluniau mawr ar y gweill.
Un rhan arwyddocaol ond sydd ar goll yng nghof y genedl yw’r ffaith fod Elen, mam Owain Glyndŵr, yn hanu o Landysul.
Yn rhan bwysig o’r celfyddydau yn Llandysul, bydd diwrnod dathlu Owain Glyndŵr ar Fedi 16 i gofio’r arwr a’i deulu ehangach.
Plethu
A hithau wedi byw yng Nghaerdydd ers pymtheg mlynedd, buan y sylweddolodd Lleucu Meinir ar ôl dod yn ôl i Landysul fod diffyg darpariaeth Cymraeg yn yr ardal, yn enwedig yn y celfyddydau.
Yn y blynyddoedd diweddar, mae Plethu wedi bod yn cynnal prosiectau cyffrous yn y celfyddydau gyda chymorth grantiau, gan gynnwys ffilmiau ar faterion cymunedol.
“Roedd y prosiect Plethu cyntaf yn rhedeg drwy 2021,” meddai Lleucu Meinir, sy’n gydlynydd gyda Plethu, wrth golwg360.
“Gwnaethon ni ddatblygu yn gelfyddydol â’r bartneriaeth oedd yn bodoli yn Llandysul yn barod rhwng Canolfan Hamdden Tysul, pwll nofio sy’n berchen gan y gymuned yn Llandysul ac Eglwys Ffynnon, fel church plant gafodd ei blannu ryw pump mlynedd yn ôl yn Llandysul yn yr hen ysgol gynradd; Llandysul Paddlers, sy’n gwneud llwyth yn lleol; prosiect yr ardd gymunedol…
“Roedd Meddwl.org hefyd yn rhan o’r bartneriaeth â Tysul Youth, sydd efo llawer o bobol ifanc yn Llandysul.
“Daeth y bobol yma i gyd at ei gilydd, a chaethon ni grant ffynnu, grant eithaf newydd, felly grant cyntaf gan y Cyngor Celfyddydau – ar y pryd, grant sy’n annog cydweithio rhwng partneriaid, sefydliadau fyddai byth fel arfer yn ymwneud â’r celfyddydau ac artistiaid.
“Roeddwn i, fel ffotograffydd a gwneuthurwr ffilm, yn gweithio yn Llandysul.
“Roedd yn eithaf gwahanol ar ôl cyfnod o bymtheg mlynedd yng Nghaerdydd yn mynd i gigs, yn trefnu gigs, yn gallu mynd i theatrau.
“Ti’n ôl yn Llandysul a ti’n dwlu ar Theatr Felin-fach, a ti’n gallu teithio i Gaerfyrddin, i Fwldan…
“Does dim outlet creadigol i’r Gymraeg yn Llandysul.
“Mae rhywbeth o’r enw pwerdy Powerhouse yna, ond mae llawer o bethau celfyddydol sy’n digwydd yn Saesneg, lot o bethau celfyddydol yn trio tynnu ar y Gymraeg ond efallai bod y bobol sy’n rhedeg o ddim yn siarad Cymraeg felly dydyn nhw ddim cweit yn deall y gwahaniaeth rhwng gwneud rhywbeth efo geiriau Cymraeg a bod persbectif neu gyd-destun Cymraeg a hanes Cymru.”
‘Cwffio am bopeth sydd ganddyn nhw’
“Felly gwnaethon ni fynd ati, achos mae Calon Tysul a Ffynnon yn gweithredu’n gwbl Gymraeg,” meddai wedyn.
“Calon Tysul yw’r unig le yn ne Cymru gei di wersi nofio i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Maen nhw nawr yn hyfforddi hyfforddwyr nofio ar draws Cymru i wella eu Cymraeg.
“Wedyn mae’r Llandysul Paddlers yn dueddol o wneud popeth yn Saesneg, jest dros yr afon yn Llandysul.
“Mae e’n eithaf diddorol, oherwydd ym mhob cymuned ti’n cael y sgyrsiau yma.
“Roeddwn yn meddwl, beth os ydyn ni’n gallu defnyddio’r celfyddydau i gael y sgyrsiau yma ynglŷn â sut mae gallu cael pobol i ddeall y persbectif Cymraeg.
“Hefyd, roedd gennyf ddiddordeb yn sut mae pobol cefn gwlad, ardaloedd fel Llandysul, yn cwffio am beth sydd ganddyn nhw.
“Mae’n dref fach, ti’n gorfod cwffio am bopeth.
“Os yw’r Ganolfan Hamdden yn cau, mae’r gymuned yn gorfod cymryd drosodd.
“£100 y diwrnod i dwymo’r dŵr y pwll nofio, ac roedd hynny cyn bod costau byw yn mynd yn waeth!
“Creu eglwys Gymraeg, oherwydd does dim eglwysi Cymraeg o gwmpas.
“Yr ardd, yr ardd gymunedol ble mae pobol yn ymarfer eu Cymraeg mewn lle naturiol.
“Tysul Youth, popeth yn rhedeg yn Saesneg er bod un arweinydd wedi dysgu Cymraeg.
“Unwaith bod un person di-Gymraeg yna mae popeth yn troi yn Saesneg.”
Defnyddio ffilm “fel arf”
Yn dilyn cyfnod Covid-19, aethon nhw ati i ddefnyddio ffilm fel dull o yrru newid yn yr ardal.
“Gan bo ni’n dod ma’s o gyfnod Covid, gwnaethon ni ddweud beth am ddefnyddio film projection fel arf, fel bo ni’n gwybod bod cyfnod o chwe mis ac ar ddiwedd bob mis bod ni efo ffilm, fy mod i’n cydlynu, bod gyda ni gerddor gwahanol ar bob un, bod gyda ni ysgogydd creadigol i bob un, a bo ni’n gweithio gyda’r gymuned i ddweud stori.
“Ar ddiwedd mis Ebrill 2021, gwnaethon ni daflunio ffilm yn edrych ar y gymuned yn dod at ei gilydd i gwffio dros Galon Tysul.
“Gwnaeth gweithwyr y ffilm, Nico Dafydd ac Ed Holden, wneud y ffilm gyda’r gymuned a gwnaethon ni daflunio fe amser oedd y pwll nofio ar gau.
“Roedd tua deg person ar un ochr, a thaflunio ar wal ar yr ochr arall.
“Diwedd y mis wedyn, gwnaethon ni ffilm gyda Llandysul Paddlers.
“Gwnaeth Eddie Ladd ddod mewn a cherdded y strydoedd ac edrych ar hanes yr afon, edrych ar yr enwau Cymraeg a Saesneg.
“Gwnaeth hi ddod â phlac mewn i weithio gyda hi, a gwnaeth hi greu’r llyfr yma a chael mini projector yn taflunio’r ffilm lawr ar y llyfr yma, felly ti’n gallu gweld y tudalennau wrth fynd trwy’r projection.
“Wedyn gwnaethon ni ffilm gyda Meddwl.org.
“Gwnaeth Manon Williams o meddwl.org fynd mewn gyda grŵp o ferched ifanc rhwng 15-18 oed sy’n dioddef o salwch meddwl dwys.
“Gwnaeth Anna ap Robert a Lleuwen Steffan ddod i weithio gyda’r merched er mwyn creu darn o ffilm gafodd ei daflunio o fewn adeiladau’r Paddlers, achos maen nhw’n gweld e fel lle saff, non-judgmental.
“Mis ar ôl hynny, wnaethon ni ffilm ym Mhencader.
“Gwnaeth Meinir Mathias greu murlun mawr ym Mhencader a’r ganolfan gymunedol yna.
“Gwnaeth Meilyr Geraint wneud caneuon yn edrych ar y golau yn y tywyllwch.
“Gyda chriw’r ardd, gwnaeth Euros Lewis ac Owen Shiers ddod, yn edrych ar y tair cymuned a sut mae llawer o eiriau Cymraeg yn cyfateb i’r gair community.
“Beth mae’r geiriau yn ei feddwl, cymdeithas a bro ac yn y blaen.
“Gwnaethon ni greu darn i’w daflunio yn yr ardd efo sgrin fawr.”
Creu
Fel yr eglura Lleucu Meinir, arweiniodd y prosiect ffilmiau at brosiect arall maes o law.
“Gwnes i fynd am grant arall gan Gyngor y Celfyddydau, grant o’r enw Creu yw e, grant i ddatblygu gwaith yn lleol,” meddai.
“Roedd Eddie Ladd ac Euros Lewis eisiau datblygu gwaith byw, ond oherwydd cyfyngiadau Covid a chyfyngiadau amser, oherwydd roeddwn yn gwybod projection ffilm roeddwn yn creu oedd dim y cyfleoedd i gael.
“Roedd Euros Lewis wedi bod yn siarad llawer am hanes y theatr yn ardal Llandysul.
“Tan y chwedegau, roedd tri grŵp theatr yn Llandysul.”
Yn y ganrif ddiwethaf, roedd y ddrama yn fywiog mewn pentrefi ledled Cymru.
Roedd Mary Lewis yn ffigwr pwysig yn y sîn ddrama yn Llandysul oedd yn torri tir newydd ar y pryd, ac roedd hi wedi priodi i mewn i deulu adnabyddus lleol, sef teulu Gwasg Gomer.
Mary Lewis a’r theatr yn Llandysul
Roedd teithiau yn ddiweddar i gofio Mary Lewis a chefndir y theatr yno.
“Roedd grŵp drama ym mhob un pentref ar y pryd yn y ganrif ddiwethaf, ac roedd y cwmnïau drama yn dueddol o gadw’r status quo, bron â bod, cadw’r pethau hwyliog i fynd, creu pethau gallwn ni werthu a mwynhau.
“Buodd Mary Lewis yn trio gwthio ffiniau.
“Roedd hi’n dod â dramâu o Ffrainc ac yn eu cyfieithu nhw i’r Gymraeg.
“Roedd drama o’r enw Meini Gwagedd roedd pawb yn ei rhoi hi ymlaen oherwydd roedd am gyfnod y glöwyr.
“Mae pawb yn rhamantu cyfnod y glöwyr, ond mae hwn yn portreadu’r glöwyr fel pobol eithaf ych-a-fi, math o beth.
“Gwnaeth hi roi’r ddrama yma ymlaen ac roedd packed audiences.
“Gwnaethon ni gyfweliad efo Nansi, sy’n 99 oed yn Llandysul, sydd wedi bod yn actio yn nramâu Mary Lewis.
“Roedd gyda ti un criw yn cwrdd yng Nghapel Seion, ac roedd y lle’n packed.
“Mae gyda fi recordiad o’r sgyrsiau roedd Euros Lewis wedi bod yn eu gwneud haf diwethaf er mwyn dysgu’r gymuned am hanes theatr yn Llandysul.
“Mae rhyw bedwar neu pum sesiwn wedi bod.
“Roedd y cyntaf lan yn Ffynnon, roedd criw o ryw bymtheg ohonon ni’n dod at ein gilydd oedd efo diddordeb dysgu am wreiddiau’r theatr.
“Gwnaethon ni ddwy daith, un daith bys, un daith gerdded jyst yn cerdded o gwmpas adeiladau yn Llandysul oedd yn bwysig i’r hanes a landio lan le mae carreg fedd Meinir Lewis.
“Wedyn cawson ni gyfarfod yn festri Seion, a dod â’r hanes yn fyw o ran yr holl ddramâu oedd yn cael eu cynnal yna.
“Mae hen luniau gydag Euros Lewis o’r dramâu yma’n digwydd.”
Egni Ceredigion
Gyda rhai yn teimlo’n flin bod y gyfres deledu Nyth Cacwn wedi dod i ben, cafodd cynhyrchiad newydd ei greu yn Theatr Pontrhydfendigaid lle mae egni Ceredigion, y diwylliant a’r iaith i’w deimlo.
Yn wir, oherwydd y ffactorau hyn penderfynon nhw aros yng Ngheredigion, a daeth Euros Lewis yn rhan o’r gymuned honno.
“Mae yna egni dan y wyneb yng Ngheredigion, mae e’n ffrwydro,” meddai Lleucu Meinir.
“Ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Tregaron, gwnaeth e ac Ifan greu Nôl i Nyth Cacwn.
“Roedd yn teimlo’n grac bod y gyfres deledu Nyth Cacwn wedi cael ei thynnu ar ôl un gyfres.
“Roedd pobol yn meddwl ei fod yn rywbeth cefn gwlad, doedd pobol dinas Caerdydd ddim yn deall.
“Eisteddodd lawr, sgwennu ma’s a dychmygu yn union beth fyddai wedi digwydd yn y gyfres deledu yma petai ail gyfres wedi bod.
“Roedd y tocynnau yn sold out o fewn ugain munud, hanner awr.
“Roedden nhw’n yn ei wneud yn Neuadd Pontrhydfendigaid, sy’n gallu dal 1,000 o bobol.
“Mae’n crazy, hurt.
“Mae oherwydd yr egni yma sy’n bodoli.
“Wrth ddysgu am hanes theatr, mae’n dysgu am hanes diwylliant gwerin, jyst diwylliant y Gymraeg, diwylliant y Cymry.
“Rydym yn colli touch gydag e, ond mae’n rhan fawr ohonon ni.
“Dyna pam mae [Euros Lewis] wedi setlo yng Ngheredigion, oherwydd yr egni yma ti’n gallu tapio mewn iddo.
“Hwnna i gyd ar yr ochr theatr, ac roeddwn i eisiau dod ag Eddie Ladd i mewn.
“Roeddwn i eisiau dod ag Eddie Ladd ’nôl i ardal Llandysul oherwydd roedd pobol wedi cwympo mewn cariad gyda hi.
“Roedd hi jyst yn dod yn un o’r gymuned, mae pobol yn chilled a humble yn ardal Llandysul.
“Mae Eddie Ladd mor humble hefyd.
“Roeddwn i eisiau i Eddie Ladd ddod ’nôl i ddysgu gan Euros Lewis.
“Roedd yn postio ychydig ar Facebook ychydig yn ôl ynglŷn â pwy wyt ti, wyt ti’n gallu gwneud dawns os nad dawnsiwr wyt ti.
“Mae llawer o’r meddwl yma gydag Eddie Ladd o addasu sut mae’n gweithio wrth bod hi’n mynd yn hŷn.
“Mae gyda hi lot o barch at Euros Lewis, ac mae gydag Euros Lewis lot o barch tuag ati hi.
“Dydyn nhw erioed wedi cydweithio.
“Blwyddyn mae Euros Lewis wedi bod i mewn yn dysgu’r gymuned am wreiddiau theatr.
“Mae hi wedi bod yn gweithio i setio theatr fach Llandysul, so ers hanner tymor Hydref, rydym wedi bod yn gweithio bob dydd Gwener ar ôl ysgol ar gwmni theatr i blant wyth i unarddeg oed.
“Rydym am fod yn setio lan pethau i bobol ifanc yn benodol nawr.”
Elen, mam Owain Glyndŵr
O ran hanes yr ardal, mae’r hanesydd John Davies a Lleucu Meinir wedi bod yn gwneud ychydig i godi ymwybyddiaeth plant a phobol ifanc am y ffaith fod Elen, mam Owain Glyndŵr, yn hanu o Landysul.
Mae ei hanes wedi ei wreiddio yn yr ardal, ac roedd teithiau i gofio hyn.
Mae sgiliau arweinyddol Owain Glyndŵr yn berthnasol i gymunedau hyd heddiw, ac ar Fedi 16 bydd y pentref yn dod ynghyd yn gelfyddydol i gofio amdano fe a’i deulu ehangach.
“Mae John Davies yn hanesydd lleol a daearegwr,” meddai Lleucu Meinir.
“Fe wnaeth godi fy ymwybyddiaeth 14 mlynedd yn ôl ynglŷn â’r ffaith bod Elen, mam Owain Glyndŵr, yn dod o ardal Llandysul ond ein bod ni wedi colli’r cysylltiad.
“Ddeuddeg mlynedd yn ôl, roedd John Davies a fi wedi mynd i Ysgol Gynradd Llandysul yn creu ffilmiau, yn edrych mewn i hanes, efo map i drio ffeindio llys Owain Glyndŵr yn yr ardal.
“Ers y cyfnod yna, mae John Davies wedi bod yn edrych mwy mewn iddo fe.
“Ryw fis yn ôl, wnaethon ni gael cais hanes yn Llandysul.
“Gwnaeth Eddie Ladd ac Euros Lewis ddod.
“Daeth John Davies â rhyw bymtheg person ar fini-bus i ardal allweddol yn Llandysul o ran hanes cyfnod Owain Glyndŵr.
“Gwnaeth e probably gael ei eni yn ardal Llandysul, oherwydd byddai Elen wedi bod yn edrych ar ôl ewythr sâl iddi ar y pryd oedd ar ei wely angau.
“Ynglŷn â phont fach dros Nant y Cerdyn lle’r oedd y brenin wedi rhoi un cwmwd, tir un ochr y nant i’w frawd e, byse fe wedi bod yn no man’s land.
“Os byddet ti’n croesi, byddet ti’n cael dy ladd wrth fynd o un ochr i’r llall.
“Teulu Glyndŵr oedd yn berchen un ochr a theulu brawd y brenin y llall.”
Hawl i fod yn Dywysog
Yn ôl John Davies, mae gan Owain Glyndwr lawer o hawl i fod yn Dywysog Cymru.
Roedd Elen, mam Owain Glyndŵr yn ddisgynnydd i’r Arglwydd Rhys a brenhinoedd y Deheubarth, yn ôl yr hanesydd.
“Roedd tad Owain Glyndŵr, sef Gruffudd Fychan yn ddisgynnydd i Frenhinoedd Powys a nôl i Llywarch Hen yn yr Hen Ogledd,” meddai Lleucu Meinir.
“Roedd cysylltiadau gyda fe ag Ednyfed Fychan a brenhiniaeth y Gogledd hefyd.
“Coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru ar ôl i Harri IV goroni ei fab ei hunan yn Dywysog Cymru.
“Er bod Harri V wedi ei eni yn Nhrefynwy ac yn Gymro o ran genedigaeth, Norman oedd e o ran treftadaeth.
“Roedd mwy o hawl gan Owain Glyndŵr fod yn Dywysog Cymru oherwydd ei fod yn ddisgynnydd i deulu’r Deheubarth ac i Frenhiniaeth Powys.
“Doedd neb gyda mwy o hawl i fod yn Dywysog Cymru nag Owain Glyndŵr.
“Felly rydym wedi bod yn edrych ar hwn a chodi ymwybyddiaeth y criw am sut oedd yr argyfwng hinsawdd ar y pryd wedi effeithio ar bopeth, a hefyd yn ddaearegol beth fysai tref Llandysul wedi bod yng nghyfnod Glyndŵr.
“Fi a bachgen ifanc, roedd e’n 18 oed, Iwan, ar fentoriaeth gyda ni.
“Buodd e’n gwneud gwaith gwirfoddol, gwaith taflunio.
“Mae e’n dysgu mwy am fyd y theatr dros flwyddyn.
“Ni’n mynd i greu ffilm gyda dronau yn dangos union ardal Llandysul ar y pryd, achos fysai mam Owain Glyndŵr wedi bod ble roedd yr hen dref.
“Mae castell i gael yna, Castle Field yw ei enw e.
“Dydy John Davies yr hanesydd methu ffeindio mapiau henach na’r degwm, ond mae’n debygol os mai Castle Field oedd enw’r cau yna byddai’r castell wedi bod yna.
“Efallai mai hwn oedd llys mam Owain Glyndŵr.”
Arweinydd da?
Yn ôl Lleucu Meinir, mae modd darganfod trwy’r holl wybodaeth sydd ar gael, ac o’r gwaith mae Plethu yn ei wneud, a oedd Owain Glyndŵr yn haeddu cael ei adnabod fel arweinydd da.
“Ni’n mynd trwy’r holl wybodaeth yma, ond hefyd o ran pethau Plethu mae’n bwysig ein bod ni’n defnyddio’r wybodaeth yma i feddwl beth oedd yn gwneud Owain Glyndŵr yn arweinydd da.
“Beth oedd yr angen am arweinydd da ar y pryd ar Gymru? Beth yw’r angen heddiw?
“Mewn ardaloedd cefn gwlad fel Llandysul, rydym yn colli llawer o’n harweinwyr naturiol ni.
“Mae hynny yn llawer o’r gwaith mae Euros Lewis wedi bod yn edrych arno hefyd, sut mae’r gwahaniaeth mewn arweinwyr mewn cymunedau wedi newid pethau.
“Mae llawer o’r grwpiau theatr bach yma’n gorffen wrth fod addysg yn newid, a bod prifathrawon yn stopio yn byw yn eu cymunedau, bod ficers a gweinidogion yn stopio dod mor bwysig yn eu cymunedau.
“Os oedden nhw’n arweinwyr naturiol oedd yn byw yn eu cymuned, roedden nhw yn arwain pob math o bethau celfyddydol hefyd.”
Dathliad mawr
Yn goron ar y cyfan, fe fydd dathliad mawr ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr eleni i arddangos ei gysylltiadau â Llandysul.
“Ni’n mynd i gael dathliad theatr, cerddorol, celfyddydol ar y strydoedd yn Llandysul,” meddai Lleucu Meinir.
“Rydym yn coroni Charles ac mae dathliad yn Llandysul o bob man!
“Roeddem yn meddwl, mae eisiau parti Glyndŵr blwyddyn yma.
“Ddydd Sadwrn, byddwn ni’n dod â’r gwreiddiau hanes lan, gwreiddiau hanes y theatr lan, a dod ag Eddie Ladd i mewn i weld sut mae hwn yn symud ymlaen nawr tuag at ddathliad Owain Glyndŵr ym Medi.
“Hefyd yn rhan o’r prosiect, mae Ed Holden ’nôl yn rhan o Plethu 2023, mae Lleuwen Steffan yn ôl yn rhan o Plethu 2023, mae hefyd Meinir Mathias.
“Mae wal anferth sydd ar ochr Canolfan Hamdden Calon Tysul, ac mae sgaffald yn mynd lan am wyth wythnos.
“Mae Meinir yn mynd i fod yn datblygu murlun sy’n dod mas o gysylltiad mam Owain Glyndŵr yn Llandysul i fynd ar ochr yr adeilad cymunedol hefyd.
“Mae dydd Sadwrn yn bach o’r holl lwybrau gwahanol yn dod at ei gilydd.
“Gwnaeth pawb yn y gymuned fynd, ‘BIe wnawn ni gwrdd, yn y Porth?’
“Mae’r Porth yn rhan ganolog o’r hanes oherwydd y fan yna fysai’r courtroom o ran llys gwleidyddol wedi bod tan yn ddiweddar.
“Fan’na byddai’r achosion llys lleol.
“Mae e reit wrth Borth yr Eglwys a theulu Owain Glyndŵr fysai wedi bod yn dewis y ficer, ac yn y blaen, yn yr ardal.
“Dyna pa mor bwysig oedd y teulu.
“Lan yn y gogledd, lle’r oedd tad Owain Glyndŵr yn dewis ficer, mae cofebion i’r teulu ar y llawr.
“Mae’n meddwl o dan y llawr newydd ond sy’n Fictorianaidd bod yna gofebion wedi cael eu gorchuddio, cofebion i fam Owain Glyndŵr a’r teulu yna dan y llawr yn Eglwys Tysul.”