Mae’n “hynod o siomedig” y bydd y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau yn dod i ben ym mis Gorffennaf, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Maen nhw’n poeni y bydd y penderfyniad yn cael effaith niweidiol ar draws y wlad, ond yn enwedig ar ardaloedd anghysbell sydd eisoes yn dioddef o gysylltiadau trafnidiaeth gwael.

Roedd y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau (BES) yn cadw gwasanaethau bysiau hanfodol i redeg drwy gydol y pandemig.

Y bwriad oedd dod â’r cynllun i ben ym mis Mawrth, ond yn dilyn trafodaethau cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror y byddai’n cael ei ymestyn am gyfnod pontio cychwynnol o dri mis hyd at ddiwedd Mehefin.

Ond yn dilyn sgyrsiau pellach, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau ddydd Gwener (Mawrth 31) y bydd y cynllun yn cael ei ymestyn am gyfnod arall o dair wythnos hyd at ddiwedd y flwyddyn academaidd hon.

Bydd y cynllun bellach yn dod i ben ar Orffennaf 24.

Y Ceidwadwyr Cymreig yn ymateb

“Mae’n hynod o siomedig gweld, er gwaethaf rhybuddion y diwydiant bysiau, y bydd y Llywodraeth Lafur yn canslo’r gefnogaeth hanfodol hon, pan fydd Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wedi capio teithiau ar £2 i annog pobol yn ôl ar drafnidiaeth gyhoeddus,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.

“Bydd cymaint o wasanaethau ddim yn gorfod wynebu’r dibyn a osodwyd arnynt ym mis Gorffennaf a bydd sawl rhan o Gymru yn gweld gwasanaethau’n cael eu torri neu hyd yn oed eu cau lawr.

“Bydd hyn yn arbennig o niweidiol i ardaloedd anghysbell yng Nghymru sydd eisoes yn dioddef o gysylltiadau trafnidiaeth gwael.

“Mae’n debyg bod gan Lafur £150m i’w wario ar ffordd i nunlle, £100m ar ragor o wleidyddion a thanwariant o £155m i’w anfon yn ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Ac eto, rywsut, dydyn nhw ddim yn gallu fforddio ffracsiwn o’r swm hwnnw i arbed gwasanaethau bws hanfodol.”

‘Gweithio i sicrhau ateb tymor hir’

“Rydym wedi neilltuo mwy na £150m ers dechrau’r pandemig i helpu i gynnal gwasanaethau a rhwydweithiau bysiau ledled Cymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae’r arian hwn yn ychwanegol at yr arian sydd eisoes yn cael ei roi bob blwyddyn i’r diwydiant bysiau.

“Byddwn yn parhau i weithio gydag Awdurdodau Lleol a chwmnïau bysiau i wneud y gorau o’r arian sydd ar gael gweddill y flwyddyn ariannol, a gweithio i sicrhau ateb tymor hir sy’n rhoi pobol cyn elw.”