Bydd cyn-Arlywydd Cosofo yn mynd gerbron llys yn yr Hâg heddiw (dydd Llun, Ebrill 3), wedi’i gyhuddo o droseddau rhyfel yn ymwneud â’r frwydr tros annibyniaeth.

Daeth annibyniaeth oddi wrth Serbia yn sgil y gwrthdaro mawr yn 1998-99, ac fe ddaeth yn arwr y wlad newydd.

Ond cafodd ei gyhuddo yn 2020 o ddeg o droseddau rhyfel a throseddau yn erbyn y ddynoliaeth, gan gynnwys erlid, lladd, arteithio a gorfodi pobol i ddiflannu ar ôl i’r ymladd ddod i ben.

Mae’r rhai eraill sy’n wynebu cyhuddiadau’n gyn-aelodau o’r KLA, sef Byddin Ryddid Cosofo, ac maen nhw i gyd wedi pledio’n ddieuog.

Mae lle i gredu bod mwy na 13,000 o bobol wedi’u lladd yn y brwydro, a rhyw 90% ohonyn nhw’n fwyafrif Albaniaidd ethnig.

Bryd hynny, roedd Cosofo dan reolaeth Serbia a’u harweinydd Slobodan Milosevic.

Yr achos llys

Bydd yr achos llys dan reolaeth barnwyr ac erlynwyr rhyngwladol, ac fe fydd yn dechrau gyda datganiadau agoriadol gan erlynwyr a chyfreithwyr yr amddiffyn, ynghyd â chynrychiolydd o Gyngor Dioddefwyr rhyfel Cosofo.

Ymddiswyddodd Hashim Thaci, sy’n 54 oed, yn fuan ar ôl cael gwybod ei fod yn wynebu cyhuddiadau, ac fe gafodd ei ddwyn i’r ddalfa yn yr Iseldiroedd.

Mae’r pedwar sydd gerbron y llys yn wynebu cyhuddiadau’n ymwneud â’u rhan mewn “menter droseddol ar y cyd”, gan gynnwys “ymosodiadau eang neu systemataidd” yn erbyn lleiafrifoedd Serbiaidd yng Nghosofo, a gwrthwynebwyr Albaniaid Cosofo i’r KLA.

Mae disgwyl i’r achos bara cryn amser, wrth i’r erlynwyr ddadlau bod angen dwy flynedd arnyn nhw i gyflwyno’r holl dystiolaeth, ac mae cefnogwyr y pedwar eisoes wedi dechrau ymgynnull i ddatgan eu cefnogaeth iddyn nhw gan gario baneri Cosofo, Albania a’r KLA a bloeddio “Rhyddid!”

Cafodd Siambrau Arbenigol Cosofo eu sefydlu yn yr Iseldiroedd a’u harwain gan farnwyr a chyfreithwyr rhyngwladol ers 2015 er mwyn cynnal achosion yn ymwneud â chyfraith Cosofo yn erbyn gwrthryfelwyr.

Mae trigolion Cosofo ar y cyfan o’r farn fod y llys yn gwrthwynebu’r KLA a’u bod nhw am chwalu eu henw da yn sgil y frwydr tros annibyniaeth oddi wrth Serbia.

Roedd Slobodan Milosevic yn un arall aeth gerbron llys am ei ran yn y frwydr, ond fe fu farw yn 2006 cyn i’r llys ddod i ddyfarniad.