Mae Eluned Morgan, Ysgrifenydd Iechyd Cymru, wedi cyhoeddi bod dwy ddyletswydd newydd wedi dod i rym er mwyn gwella gwasanaethau, gonestrwydd a thryloywder yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Daeth Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 i rym ddydd Sadwrn (Ebrill 1), ac mae’n gosod dwy ddyletswydd newydd ar sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sef y ddyletswydd gonestrwydd a’r ddyletswydd ansawdd.

Gofyniad cyfreithiol yw’r ddyletswydd gonestrwydd i holl sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru fod yn agored a thryloyw â phobol os oes rhywbeth yn mynd o’i le a’u bod yn cael eu niweidio wrth gael gofal iechyd.

O dan y ddyletswydd, mae’n rhaid i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ymddiheuro a chefnogi pobol wrth i ymchwiliad i’r digwyddiad gael ei gynnal.

Yn bwysicaf, rhaid iddyn nhw hefyd sicrhau bod ymchwiliadau i ddigwyddiadau’n cael eu cynnal drwy’r broses Gweithio i Wella, a bod y gwersi sy’n cael eu dysgu yn cael eu rhannu er mwyn helpu i osgoi digwyddiadau tebyg rhag digwydd eto.

Bydd y ddyletswydd ansawdd yn berthnasol ar gyfer holl gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gweinidogion Cymru er mwyn sicrhau, wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau, eu bod yn ystyried yn weithredol welliannau i ansawdd gwasanaethau iechyd a chanlyniadau gwell i bobol Cymru.

Mae’r ddyletswydd hefyd yn cynnwys safonau ansawdd iechyd a gofal newydd.

Corff llais y dinesydd

Mae corff llais y dinesydd newydd hefyd yn cael ei gyflwyno.

Bydd yn cryfhau cynrychiolaeth y bobol mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gan rymuso pobol i lywio gwasanaethau a dylanwadu arnyn nhw.

Bydd Llais, corff cenedlaethol annibynnol newydd, yn disodli saith cyngor iechyd cymuned Cymru ac yn adeiladu ar eu gwaith.

Bydd yn gweithio ochr yn ochr â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, awdurdodau lleol a sefydliadau gwirfoddol i roi cyfle i bobol ledled Cymru fynegi eu barn o ran cynllunio a darparu gwasanaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan sicrhau bod safbwyntiau’r bobol yn cael eu cynrychioli.

‘Gofal diogel a thosturiol o ansawdd uchel i bawb’

“Mae pawb yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gweithio’n galed i ddarparu gofal diogel a thosturiol o ansawdd uchel i bawb,” meddai Eluned Morgan.

“Fodd bynnag, hyd yn oed pan fyddwn yn gwneud ein gorau, weithiau gall pobol brofi niwed.

“Bydd y mesurau newydd hyn yn sicrhau bod ansawdd, diogelwch a thryloywder wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud, gan helpu i ddatblygu gwelliannau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn y pen draw, arwain at ganlyniadau gwell i bawb.”

‘Gofal a thriniaethau gorau posibl’

“Mae staff ar draws y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru bob amser yn gweithio tuag at ddarparu’r gofal a’r triniaethau gorau posibl,” meddai Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddorau Iechyd, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Felindre.

“Fodd bynnag, ceir achosion pan mae cleifion yn cael niwed o ganlyniad i’r gofal / triniaethau a ddarperir.

“Bydd y dyletswyddau hyn yn helpu i ddatblygu diwylliant o ymddiriedaeth a gonestrwydd ymhellach, fel y gall pobol deimlo’n hyderus yn y gofal y maen nhw’n ei gael a bod yn sicr y caiff gwelliannau eu gwneud i atal niwed o’r fath rhag digwydd eto.

“Mae’n bwysig bod pawb sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a’r bobol sy’n cael gofal, yn parhau i adrodd ar unrhyw ddigwyddiadau neu niwed sy’n digwydd fel y gellir ymchwilio i’r rhain yn agored, gan wneud gwelliannau cyn gynted â phosibl.”