Mae menyw o Bacistan sydd wedi cael hyfforddiant i addysgu yng Ngheredigion yn dweud ei bod hi’n “ceisio helpu’r gymuned gymaint â phosib a’i harwain” gorau gall hi.

Roedd Batool Raza, sydd bellach yn byw yn y sir, yn gweithio fel darlithydd Celf a Dylunio ym Mhacistan.

Roedd hi’n gobeithio y gallai ddefnyddio ei sgiliau, ei gwybodaeth a’i phrofiad i’w helpu i barhau i ddarlithio yng Nghymru.

Fodd bynnag, doedd gan Batool Raza ddim cymwysterau addysgu na phrofiad gwaith yng ngwledydd Prydain, ac roedd hyn yn ei hatal rhag gweithio yn y sector addysg yng Nghymru.

Roedd angen iddi ennill cymhwyster addysgu er mwyn cael gweithio yma, ond yn fam i ddau o blant ac yn brif ofalwr drostyn nhw, doedd hi ddim mewn sefyllfa ariannol i dalu am gwrs addysgu.

Cysylltodd hi â thîm Gweithffyrdd+ Cyngor Sir Ceredigion, y gwasanaeth sy’n helpu pobol yn y sir i ddod o hyd i waith drwy fentora un i un, hyfforddiant sy’n cael ei ariannu, a chyflwyniadau i gyflogwyr.

Neilltuodd Gweithffyrdd+ fentor cyflogadwyedd i Batool Raza, sef Alison Ellis Jones, i’w helpu i ddatblygu sgiliau cyflogaeth, a hefyd Swyddog Cyswllt Cyflogwyr, Catrin Davies, i’w helpu i ddod o hyd i gyfleoedd iddi siarad â chyflogwyr.

Gyda phrofiad gwaith ym maes darlithio, y sector addysg oedd ei dewis cyntaf ar gyfer cyfleoedd gwaith, a chwiliodd Gweithffyrdd+ am gwrs hyfforddi fyddai’n ei helpu i wneud cais am swyddi darlithio.

Cafodd cwrs hyfforddiant addysgu TAR dwy flynedd ei ganfod ar ei chyfer, ac roedd Gweithffyrdd+ wedi gallu ariannu’r cwrs.

Trefnodd Gweithffyrdd+ hefyd iddi addysgu sgrîn-brintio am dair awr yr wythnos yn Dysgu Bro, Dysgu Oedolion yn y Gymuned er mwyn cael profiad gwaith yng ngwledydd Prydain.

Mae hi bellach wedi cwblhau ei chwrs hyfforddiant addysgu TAR yn llwyddiannus ac wedi cael swydd, diolch i gefnogaeth Gweithffyrdd+.

‘Diolch’

“Rwy’ wedi bod yn gweithio gyda New Directions fel athro cyflenwi ers i mi gwpla fy nghwrs TAR,” meddai Batool Raza.

“Rwy’ wedi gweithio ac wedi cael profiad o addysgu mewn ysgolion gwahanol fel Ysgol Gynradd Plascgrug, Penglais; Henry Richard; Ysgol Uwchradd Aberaeron; Ysgol y Borth; ac Ysgol Padarn Sant.

“Rwy’ hefyd wedi arddangos fy ngwaith celf yn yr arddangosfa ‘Ffoadur yn Aberystwyth’, y cefais gyfweliad gyda The BBC Art Show yn ei sgil.

“Rwy’ hefyd yn addysgu gweithdy paentio sidan yng Nghanolfan y Celfyddydau.

“Diolch Gweithfyrdd+ am eich cefnogaeth a’ch anogaeth.

“Rwy’n ceisio helpu’r gymuned gymaint â phosib a’i harwain y gorau y gallaf.”

‘Llongyfarchiadau mawr’

“Llongyfarchiadau mawr i Batool ar eich llwyddiant ardderchog ac am barhau â’ch dyheadau i addysgu celf a rhannu eich sgiliau a’ch doniau â’n dysgwyr,” meddai’r Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar Gyngor Ceredigion.

“Dyma enghraifft arbennig arall o’r cymorth sydd ar gael gan Gweithffyrdd+ ac rydym yn falch iawn o bopeth mae Batool wedi’i gyflawni.”