Mae cadeirydd un o bwyllgorau’r Senedd wedi disgrifio methiant strategaeth cerbydau trydan Llywodraeth Cymru fel “embaras” sydd yn “annerbyniol” ac yn “llawn addewidion wedi’u torri”.
Yn ôl adroddiad diweddaraf y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, mae “methiannau lluosog” wedi bod gan Lywodraeth Cymru wrth geisio cyflawni eu haddewidion o gael mwy o gerbydau trydan ar y ffyrdd.
Mae’r ymchwil, a wnaed gan bwyllgor trawsbleidiol, wedi canfod fod y Llywodraeth wedi methu â chyrraedd pump o’r naw prif ymrwymiad a wnaed yn eu Cynllun Gweithredu lai na deunaw mis yn ôl.
Llyr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, oedd cadeirydd y Pwyllgor.
“Mae symud i Gymru wyrddach yn golygu bod mwy ohonom yn newid o gerbydau petrol neu ddisel i fodelau trydan,” meddai.
“Fodd bynnag, fe fydd pobol eisiau gwneud hynny, dim ond os yw’r seilwaith gwefru yng Nghymru yn ddigon da, a’n bod ni’n hyderus y gallwn wefru ein ceir pan fydd angen.
“Bu rhywfaint o gynnydd dros y blynyddoedd diwethaf, ond dyw’r sefyllfa sydd ohoni ddim yn agos i’r hyn y dylai fod,” meddai.
Diffyg capasiti’r grid trydan
Cymru yw’r rhan o’r Deyrnas Unedig sydd â’r nifer isaf o ddyfeisiau gwefru fesul 100,000 o’r boblogaeth, gyda dim ond 2,400 allan o 37,000 o wefrwyr.
Dywed Cymdeithas Cerbydau Trydan Cymru (EVA) mai’r diffyg mannau gwefru cyflym ar lwybrau allweddol Cymru yw’r “rhwystr mwyaf arwyddocaol” i’r defnydd o gerbydau trydan.
Un gwefrwr cyflym ar gyfer pob 15,000 o’r boblogaeth sydd ar gael yng Nghymru, tra bod un fesul pob 11,000 ar draws y Deyrnas Unedig.
Yn yr Alban, mae’n rhaid darparu mannau gwefru o leiaf 7kW ar gyfer pob ardal breswyl sydd â maes parcio, ac mae gofynion tebyg yn Lloegr hefyd.
Yn ôl yr adroddiad, mae diffyg capasiti’r grid trydan yn broblem sylweddol mewn ardaloedd gwledig, sy’n golygu bod dosbarthiad anwastad o wefrwyr ledled Cymru.
Yn eu Cynllun Gweithredu, mae’r Llywodraeth yn ymrwymo i lunio grŵp cysylltiadau er mwyn datblygu’r seilwaith anwastad – ond dydy hynny ddim wedi digwydd.
Yn ogystal, yn 2022, addawodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw’n adolygu rheoliadau adeiladu er mwyn ceisio gwella’r sefyllfa.
Fodd bynnag, canfu’r Pwyllgor nad oedd hyn wedi digwydd chwaith, gydag EVA yn datgan bod Cymru ar ei hôl hi o ran darpariaeth pwyntiau gwefru mewn cartrefi a swyddfeydd.
Canfuwyd hefyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cyflawni eu haddewid o sefydlu grŵp o sefydliadau preifat, cyhoeddus a di-elw er mwyn penderfynu’r lleoliadau gorau ar gyfer mannau gwefru.
Mae’r pwyllgor wedi galw am ffurfio’r grwpiau hyn fel “mater o frys”, gan ddweud bod y diffyg cynnydd yn “tanseilio hygrededd y Cynllun Gweithredu”.
‘Cynllun diffyg gweithredu’
Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i gwblhau eu hadolygiad o reoliadau adeiladu, ac i ystyried sut y gallan nhw annog atyniadau ymwelwyr a gwestai i osod mannau gwefru.
“Dyw Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ddim yn 18 mis oed, eto ac mae rhai o’r targedau eisoes wedi’u methu. Mae hyn yn annerbyniol – ac yn embaras,” meddai Llyr Gruffydd.
“Ar sawl mater, mae’n fwy addas ei alw’n ‘gynllun diffyg gweithredu’.
“Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl y cafwyd datganiad o argyfwng hinsawdd gan Lywodraeth Cymru, ond mae eu cynnydd ar y mater hollbwysig hwn eisoes yn annigonol.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru wella’r sefyllfa a dilyn argymhellion y pwyllgor os ydyn nhw o ddifrif ynglŷn â lleihau allyriadau carbon y genedl, a chael mwy ohonom ni i mewn i gerbydau trydan,” meddai Llyr Gruffydd.
‘Gwersi allweddol’
“Rydym yn croesawu adroddiad y pwyllgor sy’n cynnwys rhai gwersi allweddol i ni wrth inni weithio i ddarparu’r seilwaith gwefru sydd ei angen ar Gymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Roeddem yn falch o weld bod Cymru bellach yn dangos y cynnydd canrannol mwyaf o unrhyw ranbarth yn y Deyrnas Unedig mewn darpariaeth gwefru a gwefru tâl cyflym.
“Mae hyn diolch i raglen gyflawni uchelgeisiol rydym wedi’i datblygu gyda phartneriaid allweddol ac rydym nawr yn edrych ymlaen at adeiladu ar y sylfeini hyn.”