Mae Cyngor Sir Conwy yn edrych ar gynnydd mewn achosion o drais ac ymddygiad ymosodol yn erbyn cynghorwyr a swyddogion y Cyngor.

Fe wnaeth adroddiad ar statws risgiau amlygu’r bygythiadau sy’n wynebu Cyngor Conwy, ac yn ôl y papur mae trais ac ymddygiad ymosodol yn erbyn cynghorwyr a staff yn risgiau “mawr”.

Dywed swyddogion y Cyngor eu bod nhw’n credu bod yr aflonyddu yn erbyn cynrychiolwyr y Cyngor wedi cynyddu yn sgil y pandemig Covid-19 a’r argyfwng costau byw.

Bu pwyllgor craffu ar gyllid ac adnoddau corfforaethol y Cyngor yn trafod yr adroddiad yr wythnos hon.

Yn ystod y ddadl, cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Luckock at farwolaethau dau Aelod Seneddol – Jo Cox a Syr David Amess – yn dilyn ymosodiadau gan aelodau o’r cyhoedd.

Ond wedyn roedd y Cynghorydd Paul Luckock fel petai’n awgrymu bod swyddogion y Cyngor yn poeni’n ormodol am y perygl o drais, gan awgrymu bod angen i’r cyhoedd gael eu rheoli’n well.

‘Cynnydd mewn ymosodiadau geiriol’

Esboniodd Amanda Jones, rheolwr perfformiad a gwella corfforaethol y Cyngor, fod yr awdurdod wedi dechrau prosiect i edrych ar wraidd y cynnydd.

“Mae risg newydd wedi cael ei adnabod: risg uwch o drais ac ymddygiad ymosodol tuag at swyddogion ac aelodau etholedig,” meddai.

“Er bod yr adroddiad iechyd a diogelwch hanner blwyddyn diwethaf wedi dangos gostyngiad bychan mewn ymosodiadau ar lafar tuag at swyddogion ac aelodau o gymharu â’r adroddiad hanner blwyddyn blaenorol, mewn gwirionedd – yn enwedig o fewn addysg a gofal cymdeithasol dros y bum mlynedd ddiwethaf – rydyn ni wedi gweld cynnydd mewn digwyddiadau o ymosodiadau geiriol, flwyddyn ar ôl blwyddyn, a hynny wedi gwaethygu yn sgil y pandemig.

“Ond mae prosiect wedi cael ei lansio i edrych yn benodol ar hyn a thrio mynd at wraidd yr achos.

“Ond y cynnig ar gyfer y risg yma yw ein bod ni’n cofio bod gennym ni argyfwng costau byw a chydnabod bod swyddogion ac aelodau o staff dan bwysau anferthol fel y mae aelodau ein cymuned, felly cydnabod bod hynny’n risg a chreu ffyrdd o leihau’r risg er mwyn cefnogi staff ac aelodau gyda hynny.”

‘Gweithio efo’r cyhoedd’

Ond dywedodd y Cynghorydd Paul Luckock fod angen i’r Cyngor roi’r cynnydd yn ei gyd-destun.

“Dw i’n poeni am rai o’r trywyddion rydyn ni’n eu dilyn oherwydd maen nhw’n digalonni pobol ac yn creu ofn,” meddai.

“Gyda rhai o’r achosion dw i wedi bod ynghlwm â nhw yn ystod fy mlwyddyn gyntaf fel cynghorydd, pan dw i wedi bod yn gweithio â swyddogion maen nhw wedi pwysleisio bod angen i fi ‘fod yn ofalus gyda’r person hwn neu’r teulu hwn’.

“Pan ydych chi’n mynd i gwrdd â’r person neu’r teulu, rydych chi’n deall eu bod nhw’n flin ac yn rhwystredig; dydyn nhw ddim yn cael y gwasanaeth neu’r pethau sy’n bwysig iddyn nhw.

“Ond os ydych chi’n delio efo nhw yn y ffordd gywir… dw i ddim wedi teimlo unrhyw beryg o drais nac ymddygiad ymosodol, felly dw i’n meddwl bod angen i ni roi hynny yn ei gyd-destun.

“Mae angen gwneud mwy o waith gyda chynghorwyr a swyddogion ynglŷn â sut ydyn ni’n ymgysylltu â’r cyhoedd a sut ydyn ni’n gweithio efo nhw, a petaem ni’n rhoi ein hunain yn eu hesgidiau nhw a gweithio efo nhw, byddai’r lefel hwn o drais ac ymddygiad ymosodol yn lleihau, dw i’n meddwl, hyd yn oed yn y cyfnod heriol hwn.”

Cafodd yr adroddiad, gyda sawl diwygiad, gefnogaeth cynghorwyr.