Mae Gareth Davies, llefarydd gwasanaethau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi adolygiad o wasanaethau plant “ar unwaith”.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am adolygiad “hollgynhwysol” yng Nghymru yn dilyn achos llys llofruddiaeth Lola James.

Ddydd Mawrth (Ebrill 4), cafwyd Kyle Bevan, 31 oed o Geredigion, yn euog o lofruddio Lola James, merch fach ei bartner oedd yn ddwy oed ar y pryd, ym mis Gorffennaf 2020.

Yn Llys y Goron Abertawe, cafwyd ei bartner a mam Lola, Sinead James sy’n 30 oed o Sir Benfro, yn euog hefyd o achosi neu ganiatáu ei marwolaeth.

Bydd y ddau yn cael eu dedfrydu ar Ebrill 25.

‘Digwydd yn llawer rhy aml’

Yn ôl Gareth Davies, mae camdrin plant “yn digwydd yn llawer rhy aml yng Nghymru”.

“Roedd marwolaeth Lola James yn drasiedi enfawr, mae’n hynod drist darllen newyddion am blant sy’n cael eu hesgeuluso neu eu camdrin gymaint gan eu gofalwyr nes eu bod yn colli eu bywydau.

“Yng nghyd-destun achosion trasig, proffil uchel eraill fel Logan Mwangi a Kaylea Titford, all y Llywodraeth Lafur ddim aros o’r neilltu a phetruso,” meddai.

Bu farw Lola James yn yr ysbyty o ganlyniad i anaf i’r pen, yn dilyn “ymosodiad creulon” gan Kyle Bevan, oedd wedi ceisio beio ci’r teulu am y niwed.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am adolygiad cynhwysfawr, hollgynhwysol o wasanaethau plant ers cyn cof, tra bod Llafur wedi gwrthod ystyried un.

“Mae Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cynnal adolygiadau o’r fath – Cymru yw’r unig ran o’r Deyrnas Unedig sydd heb wneud hynny o hyd.

“Mae angen i’r Llywodraeth Lafur gyhoeddi un ar unwaith, er mwyn cael rhai atebion, gwneud newidiadau angenrheidiol a gweithredu i achub bywydau.”

Angen “eu hamddiffyn yn well”

Mae elusen NSPCC Cymru hefyd yn galw am adolygiad i asiantaethau gofal plant yn dilyn marwolaeth Lola James, er mwyn gweld beth ddylai fod wedi cael ei wneud i’w hachub.

“Nawr yw’r amser i wneud amddiffyn plant yn flaenoriaeth genedlaethol,” meddai Tracey Holdsworth, Cyfarwyddwr Cynorthwyol yr elusen i blant.

“Mae Llywodraeth Cymru, yn gwbl briodol, wedi ymrwymo i drawsnewid gofal cymdeithasol plant ac mae’n hollbwysig bod hyn yn arwain at newidiadau systemig sy’n sicrhau bod plant fel Lola yn cael eu hamddiffyn yn well.”

‘Ystyried yr holl ganfyddiadau a’r argymhellion yn ofalus’

“Mae hwn yn achos trasig ac rydym yn meddwl am bawb sydd wedi eu heffeithio gan farwolaeth Lola,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Byddwn yn aros am ganlyniad yr Adolygiad Ymarfer Plant fydd yn cael ei gynnal a byddwn yn ystyried yr holl ganfyddiadau a’r argymhellion yn ofalus.

“Mae gennym raglen uchelgeisiol i drawsnewid gwasanaethau plant yng Nghymru, yn seiliedig ar ystod o ymchwil, adolygiadau a gwerthusiad annibynnol sy’n amlinellu’r heriau y mae’n rhaid mynd i’r afael â nhw a’r camau yr ydym yn eu cymryd.”