Mae disgwyl i Gyngor Sir Penfro gynnal ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni, allai arwain at dreblu’r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi yn y dyfodol.

Daw hyn wedi i reolau treth newydd gafodd eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru ddod i rym ddechrau’r mis, sy’n golygu bod awdurdodau lleol yn gallu gosod a chasglu premiymau treth cyngor o hyd at 300% ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.

Ar hyn o bryd, mae premiwm treth cyngor o 100% ar ail gartrefi yn Sir Benfro.

Mae’r rheolau wedi dod i rym yn dilyn ymgynghoriadau lleol a chenedlaethol.

“Mae’r newidiadau i’r system dreth leol yn ffurfio un rhan o becyn ehangach o fesurau sy’n cael eu cyflwyno – yn ymwneud â’r systemau cynllunio, eiddo a threth – er mwyn mynd i’r afael ag effaith ail gartrefi a thai anfforddiadwy ar gymunedau Cymru,” meddai Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Leol Cymru.

“Yn y bôn, mae’r newidiadau’n anelu at greu tegwch.

“Rydyn ni eisiau sicrhau bod gan gynghorau bwerau i gael y cydbwysedd cywir yn y cyflenwad tai lleol.”

Ymgynghoriad

“Dydy Cyngor Sir Penfro heb gynnig cynyddu’r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi nag eiddo gwag hirdymor ar gyfer 2023/2024,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro.

“Bydd ymgynghoriad ar gynnydd posib i lefelau’r premiymau ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 yn cael ei gynnal eleni.

“Fe wnaeth Cyngor Sir Penfro gyflwyno premiwm treth cyngor o 50% ar ail gartrefi yn 2017; fe wnaeth y premiwm gynyddu i 100% o Ebrill 1, 2022.

“Cafodd premiwm ar gyfer eiddo gwag hirdymor ei gyflwyno yn 2019 ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am dair blynedd neu fwy.

“Mae’r premiwm hwn yn cynyddu’n raddol, mae graddfa’r premiwm yn dechrau ar 25% gan gynyddu i 50% ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag ers pedair blynedd neu hirach, a 100% ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag ers pum mlynedd neu fwy.”

Gall awdurdodau lleol ddiwygio’r system gynllunio lle bo ganddyn nhw dystiolaeth dros wneud hynny hefyd.

Ynghyd â hynny, mae’r meini prawf er mwyn caniatáu i dai gwyliau dalu cyfraddau busnes yn hytrach na threth cyngor wedi cael eu cryfhau.

Mae gwybodaeth gafodd ei chyhoeddi’n ddiweddar gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dangos bod mwy na 60% o’r tai mewn rhai ardaloedd o’r sir yn ail gartrefi.

Sir Benfro yn dyblu’r dreth ar ail gartrefi

Cynghorwyr Sir Benfro yn dilyn esiampl cynghorwyr Gwynedd ac Abertawe