Mae disgwyl i 22 o brosiectau cymunedol yn Sir Benfro gael eu cyfran o fwy na £346,000 mewn grantiau sy’n deillio o refeniw treth gyngor ail gartrefi.

Bydd y premiwm treth gyngor o 100% ar ail gartrefi yn Sir Benfro’n cynhyrchu oddeutu £5m ar gyfer 2022-23, gyda 25% yn mynd tuag at y Cynllun Grant Gwella Sir Benfro.

Ers ei sefydlu, mae 17 o banelau grant wedi argymell a’r Cabinet wedi dyfarnu cyfanswm o £3,077,837.71 i 178 o brosiectau llwyddiannus yn Sir Benfro.

Fe wnaeth Panel y Grant ystyried 26 o geisiadau yn eu cyfarfod fis Chwefror, gyda phedwar heb eu hargymell i’w cymeradwyo.

Mae’r argymhellion ar gyfer cymeradwyaeth, sy’n cynnwys ystod eang o grwpiau a chymunedau, yn cyfateb i £346,602.78 i gyd.

Cafodd y ceisiadau gafodd eu hystyried eu hanfon ymlaen i Gabinet Cyngor Sir Penfro, fu’n cyfarfod ddoe (dydd Llun, Mawrth 13), ac fe wnaethon nhw gymeradwyo pob un gafodd eu hargymell.

Prosiectau llwyddiannus

Ymhlith y prosiectau gafodd eu cymeradwyo mae Pride Sir Benfro yn Noc Penfro, sy’n derbyn £25,920 i recriwtio swyddog ymgysylltu cymunedol.

Bydd y rôl yn cynnwys trefnu digwyddiadau sydd wedi’u cynllunio gan Pride Sir Benfro, mewn cydweithrediad â’r gymuned LHDTC+, ac arwyddbostio a chefnogi unigolion LHDTC+.

Bydd Cyngor Cymuned Llanusyllt (Saundersfoot) yn derbyn £20,991.20 ar gyfer arwyddion electroneg ynni solar ar gyfer gyrwyr ar nifer o’r ffyrdd sy’n arwain at ganol y pentref.

Bydd Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Llanusyllt yn derbyn £28,248.80 er mwyn gwella isadeiledd ystafelloedd newid er mwyn cefnogi datblygu campau maes yn Llanusyllt, Amroth, New Hedges a Chilgeti/Begeli.

Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod yn derbyn £7,802.50 i gyflogi swyddog digwyddiadau ac addysg rhan amser; mae Windswept yn derbyn £12,750 i redeg sesiynau campau dŵr wythnosol ar gyfer 30 o ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Coastlands, a bydd y St Davids’ Festival of Ideas yn derbyn £13,404 ar gyfer yr ŵyl dridiau ddwyieithog sy’n cynnwys siaradwyr, bwyd, chwaraeon a cherddoriaeth.

Mae grantiau eraill yn cynnwys £5,600 ar gyfer ardal chwarae yn Amroth; £17,459 ar gyfer offer chwarae yn Burton; £1,674 ar gyfer prosiect i osod mainc i gofio canmlwyddiant codi cofeb ryfel Clunderwen; £31,040.44 ar gyfer Amaeth Cymunedol Organig Caerhys; £900 ar gyfer Cymdeithas Cymuned a Neuadd East Williamston; £13,520 ar gyfer ail gam Cymuned Gysylltiedig Llanrhian; a £25,389 i adnewyddu parc chwarae Trefin yn Llanrhian.

Ymhlith y grantiau eraill mae Cymdeithas Neuadd Bentref Llanteg (£16,760) i leihau’r defnydd o ynni ac ôl carbon y neuadd; offer chwarae ar gyfer Ardal Hamdden Marloes (£2,466.40), £27,980 ar gyfer staff siop dros dro Milford Youth Matters yn Aberdaugleddau; £19,248 ar gyfer Hybiau Cymunedol Neyland; a £10,100 ar gyfer swyddog cyswllt cymunedol ym Mhencaer.

Bydd £17,086.24 yn cefnogi ailagor Canolfan Gymunedol Simpsons Cross, a chafodd Cyngor Cymuned Solfach £21,328 i uwchraddio ardal chwarae ‘Gamlin’, tra bod Pwyllgor Neuadd Bentref Tremarchog yn derbyn £10,136 a Chymdeithas Neuadd Fictoria yn derbyn £16,799.20 i drwsio ardal chwarae.

‘Cymuned sydd wrth galon hyn’

“Cymuned sydd wrth galon hyn,” meddai’r Cynghorydd Jon Harvey yn ystod y Cyfarfod Cabinet ddoe (dydd Llun, Mawrth 13).

“Mae’r cynllun hwn yn dangos unwaith eto sut y gall cymunedau gymryd rhan.”

Yn ôl y Cynghorydd Rhys Sinnett, “maen nhw’n brosiectau sy’n bwysig i’w cymunedau, a bu’n gynllun llwyddiannus dros ben drwy gydol ei oes”.