Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r llenor John Gruffydd Jones, enillydd nifer o brif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol, yn dilyn ei farwolaeth.

Enilodd y Fedal Ryddiaith ym Machynlleth yn 1981, Tlws y Ddrama yn Abergwaun yn 1986, a’r Goron ym Mhorthmadog yn 1987.

Ond enillodd nifer o gystadlaethau eraill yr Eisteddfod hefyd, gan gynnwys y delyneg, y fonolog, y soned a’r stori fer, a bu’n cystadlu’n frwd tan y blynyddoedd diwethaf.

Bu’n olygydd Y Goleuad, cylchgrawn y Methodistiaid Calfinaidd, am ddegawd rhwng 2000 a 2010, ddwy flynedd cyn iddo ennill gradd MA Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Cymru dan gyfarwyddyd yr Athro Angharad Price.

Cyhoeddodd nofel, Dawns Ganol Dydd, a chasgliad o gerddi Ai Breuddwydion Bardd Ydynt? ac roedd yn golofnydd ym mhapur bro Y Glannau.

Mae’n gadael merch, Delyth Marian, a mab, Dafydd Llewelyn, a thair wyres.

‘Un gwylaidd ac addfwyn’

“Un gwylaidd ac addfwyn oedd John Gruffydd Jones, gŵr cyflawn yr oeddwn i’n ei edmygu’n fawr ac yn falch o gael ei gyfri’n dad-yng-nghyfraith imi,” meddai’r Athro Gerwyn Williams.

“Yn nodweddiadol ohono, cefais garedigrwydd, cyfeillgarwch a chefnogaeth ganddo ar hyd y blynyddoedd.

“Roedd yn ddyn eang ei ddiddordebau: bu ar un adeg yn ddyfarnwr pêl-droed ac roedd yn gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Abertawe.

“Cafodd oes hir a llawn, bywyd cynhyrchiol a chreadigol, a hyd yn oed ar ôl ymddeol o’i alwedigaeth fel cemegydd diwydiannol, daliodd yn ddiwyd: bu’n olygydd Y Goleuad am ddeng mlynedd, ymrwymiad nid ansylweddol wrth bapur enwadol wythnosol, ac aeth ati i astudio ar gyfer MA mewn ysgrifennu creadigol.

“Bwriodd ef ac Eirlys, ei ddiweddar wraig, wreiddiau yn Abergele yn 1967 a chwarae rhan lawn yn y gymuned yno.

“Hyd at ei farw, roedd ganddo golofn fisol ym mhapur bro Y Glannau ac ar union ddiwrnod yr aeth yn sâl, derbyniodd Dlws y Prif Of am gyfraniad oes i Glwb yr Efail, cymdeithas ddiwylliadol ym Mro Colwyn y bu’n aelod triw ohoni.

“Ond fel y datgela ei enw yng Ngorsedd, Ioan Horon, llanc o Lŷn oedd John Gruffydd Jones neu John Trigfa i rai, cyfeiriad at ei gartref bore oes a oedd dafliad carreg yn unig o Gapel Newydd, Nanhoron.

“Roedd felly ar ben ei ddigon fis Tachwedd diwethaf pan ddathlodd ei ben blwydd yn 90 oed yng nghwmni ei deulu agosaf mewn bwthyn yn Aberdaron ger tonnau gwyllt y môr.”

‘Mi fydd yn golled fawr ar ei ôl’

“Profiad hyfryd oedd cael cydweithio â John ar ei radd MA yn Adran y Gymraeg rai blynyddoedd yn ôl,” meddai’r Athro Angharad Price o Brifysgol Bangor.

“Yn ystod ei gwrs ysgrifennodd nofel arbennig, Dawns Ganol Dydd, a oedd wedi ei hysbrydoli gan brofiadau ei ieuenctid ym Mhen Llŷn, cynefin a olygai lawer iawn iddo.

“Gwyddonydd oedd John wrth ei alwedigaeth, ac yn ei waith academaidd trafododd sut y gallai’r gwyddonol a’r celfyddydol gyfoethogi ei gilydd.

“Roedd yn ddyn hoffus a bonheddig, a daeth yn aelod gwerthfawr o’r gymuned hwyliog o fyfyrwyr ysgrifennu creadigol yma ym Mangor.

“Mi fydd yn golled fawr ar ei ôl.”

‘Yncl John’

Dywed y Prifardd Llion Jones ei bod yn “fraint i mi gael ei alw yn Yncl John a chael treulio cymaint o amser yn ei gwmni”.

“Roedd o’n ddyn a lwyddodd i ddwyn bydoedd ynghyd yn ei fywyd a‘i waith,” meddai.

“Y gwyddonydd oedd yn trin geiriau mor ofalus ag y byddai’n trin cemegau a’r llenor o reffarî oedd mor gartrefol ar gaeau mwdlyd prif gynghreiriau Lloegr ag oedd o yn trafod cerddi ar feysydd eisteddfodau.

“Roedd o’n ddyn crwn ei ddiwylliant a’i galon yn fawr.

“Dyna pam efallai ei fod o wedi creu cymaint o argraff fel bardd a llenor.”