Bydd hanner miliwn o glipiau fideo o hanes radio a theledu Cymru yn cael eu rhoi ar gael i’r cyhoedd, diolch i agoriad Canolfan Archif Ddarlledu Cymru am y tro cyntaf heddiw (dydd Iau, Mawrth 16).
Wedi’i lleoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth – gyda 12 ‘Cornel Clip’ yn agor ledled Cymru dros y misoedd nesaf – hon fydd yr archif ddarlledu genedlaethol gyntaf yn y Deyrnas Unedig, ac un o’r archifau darlledu hawsaf i’w defnyddio yn Ewrop.
Bydd yn trawsnewid mynediad cyhoeddus at ganrif o hanes darlledu Cymru gyda ffilm, fideo a sain Cymraeg a Saesneg wedi’u digido i’w darganfod.
Mae Canolfan Archif Ddarlledu Cymru yn cynnig mynediad digidol at ddeunydd sydd wedi’i gadw mewn sawl fformat dros y degawdau.
Beth sydd yn yr archif?
Gall ymwelwyr bori drwy recordiadau sain o radio’r BBC yng Nghymru o’r 1930au ymlaen, darllediadau teledu gan y BBC a darlledwyr masnachol yng Nghymru, gan gynnwys HTV Cymru ac ITV Cymru, o’r 1950au ymlaen, ac o 1982 ymlaen – holl raglenni S4C, y sianel deledu Gymraeg gyntaf.
Mae eiliadau nodedig yn hanes Cymru wedi’u cofnodi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol drwy eitemau dogfen a newyddion cyffredinol, sy’n trafod digwyddiadau fel boddi Tryweryn, trychineb Aberfan, streiciau’r Glowyr a’r Senedd yn agor.
Hefyd yn eu plith mae clipiau sy’n dangos pob agwedd ar fywyd yng Nghymru, o ddarllediadau helaeth o chwaraeon Cymru ers y 1940au, i adloniant a drama yn cynnwys opera sebon hynaf Cymraeg y BBC, Pobol y Cwm, gafodd ei darlledu am y tro cyntaf yn 1974.
Mae’r arddangosfa barhaol yn defnyddio technoleg ryngweithiol o’r radd flaenaf i arddangos uchafbwyntiau’r archif, yn ogystal ag arddangosfa a fydd yn newid yn rheolaidd.
Mae hyn yn cynnwys lolfa sain a fideo sy’n gweithredu fel silffoedd llyfrau clyweledol i’w pori’n hamddenol.
Bydd y gwasanaeth allweddol yn cael ei ddarparu drwy derfynellau a fydd yn galluogi mynediad digynsail i’r cyhoedd ac academyddion allu ymchwilio i gasgliad helaeth o ddeunydd wedi’i ddigido o dreftadaeth glyweledol Cymru.
Bydd gweithgareddau pwrpasol ar gyfer ysgolion a grwpiau ar gael yng Nghanolfan Archif Ddarlledu Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol.
‘Canrif o hanes Cymru’
“Nid yn unig y mae Canolfan Archif Ddarlledu Cymru yn cynnwys canrif o hanes darlledu Cymru, ond canrif o hanes Cymru,” meddai Ashok Ahir, Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol.
“Am y tro cyntaf yn y ganrif honno, mae ar gael i bobol Cymru ei fwynhau.
“Ar draws cannoedd ar filoedd o glipiau fideo a roddwyd gan BBC Cymru, ITV Cymru ac S4C, mae ganddon ni straeon o bob cornel a chymuned yng Nghymru.
“Mae rhai yn straeon fel yr adroddwyd nhw wrth Gymru, ac mae eraill yn straeon a adroddwyd gan Gymru.
“Bydd modd i bobol weld eu hunain yn y straeon maen nhw’n eu gweld a’u clywed.
“Rydyn ni eisiau i bobol ddod i ddysgu, i rannu ac i fwynhau hanes Cymru, nid yn unig yn Aberystwyth, ond ledled Cymru.”
Archif tu allan i Aberystwyth
Am y tro cyntaf i’r Llyfrgell Genedlaethol, bydd modd i’r cyhoedd gael mynediad at archif ddarlledu o’r tu allan i’w lleoliad yn Aberystwyth – gyda gofod yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a nifer o leoliadau newydd yn agor ledled Cymru yn 2023/24.
Mae’r rhain yn cynnwys Llyfrgell Caerfyrddin Archifau Gorllewin Morgannwg, Canolfan Mileniwm Cymru, Canolfan Ddiwylliant Conwy, Llyfrgell Glowyr De Cymru, Llyfrgell Llanrwst, Archifdy Caernarfon, Llyfrgell Merthyr Tudful, Coleg Iâl Cambria yn Wrecsam, Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn Rhuthun, Archifau Ynys Môn, Archifau Morgannwg, ac Archifdy Sir Benfro, gan sicrhau y bydd modd cael mynediad at Ganolfan Archif Ddarlledu Cymru o bob cwr o’r wlad.
“Un o’n nodau allweddol yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yw bod ein casgliadau anhygoel ar gael i bawb yng Nghymru,” meddai Ashok Ahir.
“Ym mhob un o’n Corneli Clip ar draws y wlad, bydd modd i bobol fewngofnodi i’r Llyfrgell Genedlaethol, mewngofnodi i Archif Ddarlledu Cymru, a gwylio a gwrando ar hanes eu cymuned leol.
“Nid yn unig byddan nhw’n dysgu am straeon eu cymuned, ond lle mae’r straeon yma’n eistedd yn hanes ehangach Cymru.”
‘Moment arbennig yn natblygiad ein Llyfrgell Genedlaethol’
Yn ôl Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Cymru, mae creu Archif Ddarlledu Cymru’n “foment arbennig yn natblygiad ein Llyfrgell Genedlaethol, ac o ran gwarchod y cofnod gorau posibl o’n treftadaeth ddiwylliannol”.
“Rydw i’n hynod o falch taw Cymru yw’r lle cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael archif ddarlledu genedlaethol a’n fodlon iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cyfrannu cyllid er mwyn i’r prosiect allu mynd yn ei flaen,” meddai.
“Dymunaf bob llwyddiant i’r tîm yn y Llyfrgell Genedlaethol ac edrychaf ymlaen yn eiddgar i ddilyn hynt yr Archif dros y blynyddoedd i ddod.”
Dywed Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, fod “darlledu wedi chwarae rhan sylweddol mewn dogfennu hanes modern Cymru”.
“O adroddiadau newyddion torcalonnus o drychineb Aberfan; i ddarlithoedd wnaeth ysbrydoli cenhedlaeth fel ‘Tynged yr Iaith’ Saunders Lewis, darllediad cyntaf S4C ym 1982 ac uchelfannau tîm pêl droed Cymru yn yr Ewros yn 2016 a Chwpan y Byd yn 2022,” meddai.
“Mae hefyd wedi caniatáu i ni daro llygad dros ein gorffennol gan ddysgu am ein treftadaeth trwy raglenni fel The Dragon Has Two Tongues: A History of the Welsh yn 1985, The Story of Wales yn 2012, ac wedi rhoi Cymru ar y map gyda rhaglenni poblogaidd fel Doctor Who, Un Bore Mercher ac Y Gwyll.
“Ein braint yw cefnogi prosiect mor bwysig ac mor arloesol, fydd yn gwarchod a rhannu treftadaeth ddarlledu Cymru fel bod cenedlaethau heddiw a’r dyfodol yn gallu gwerthfawrogi, mwynhau a dysgu ohono am flynyddoedd i ddod.”