Mae un o ddigrifwyr amlycaf Cymru’n lledaenu’r gair ynghylch manteision comedi stand-yp er mwyn hybu iechyd meddwl da.

Bydd Tudur Owen yn ymuno â Dilwyn Pierce, Siân Parry ac Eryl Davies ar gyfer digwyddiad o’r enw ‘Cryfder Mewn Comedi’, sesiwn holi ac ateb fydd yn cael ei harwain gan Nic Parry, y sylwebydd pêl-droed a barnwr Llys y Goron, yn Neuadd y Dref Dinbych ar nos Iau, Ebrill 6 am 7.30yh.

Mae’r noson wedi’i noddi gan Ifor Williams Trailers, cwmni sydd â ffatrioedd yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint ac a gafodd eu hysgogi i gefnogi’r digwyddiad ar ôl clywed bod Alaw Owen, trefnydd y digwyddiad, wedi brwydro ar ôl cael anafiadau newidiodd ei bywyd yn dilyn gwrthdrawiad car difrifol.

Wrth adfer yn dilyn y digwyddiad, sefydlodd y llwyfan digidol poblogaidd ‘Nerth dy Ben’ i helpu pobol eraill i fanteisio ar eu cryfder mewnol eu hunain ac yn dilyn llwyddiant y fenter, mae hi wedi mynd ati i drefnu ei digwyddiad theatr byw cyntaf.

‘Chwerthin fel ffordd o leddfu straen’

Gwnaeth ei hanes gryn argraff ar Tudur Owen.

“Doeddwn i erioed wedi cyfarfod efo Alaw, ond pan ffoniodd hi fi i egluro beth roedd hi’n ei gynllunio a gofyn i mi ymuno â’r panel ar y llwyfan ar gyfer y digwyddiad gwych hwn, roeddwn i’n gallu clywed yr angerdd yn ei llais,” meddai’r digrifwr.

“Mae hi’n gwneud dadl mor gryf dros ei hymgyrch i wella lles meddyliol pobol, yn enwedig mewn cymunedau gwledig anghysbell lle gall unigolion, a hyd yn oed teuluoedd cyfan, deimlo’n ynysig yn aml.”

Mae’n credu ers tro bod hiwmor yn cynnig ffordd i helpu pobol yn eu bywydau.

Fel noddwr Hosbis Dewi Sant yng Ngwynedd ac Ynys Môn, mae wedi gweld yn uniongyrchol sut mae teuluoedd yn defnyddio chwerthin fel ffordd o leddfu straen.

“Efallai ei fod yn swnio’n rhyfedd o ystyried natur gwaith yr Hosbis, yn enwedig gyda’r rhai sy’n wynebu salwch angheuol, ond pryd bynnag y byddaf yn ymweld â’r Hosbis yr hyn sy’n fy nharo yw cymaint o chwerthin go iawn sy’n rhan o’r awyrgylch yno.

“Mae hiwmor yn arf mor bwysig i’n helpu ni i gyd i ymdopi ag emosiynau fel ofn, galar, gorbryder a straen.”

Ond gall hyd yn oed gyrfa ym myd comedi arwain at straen, yn ôl y digrifwr.

“Mae gen i farn ychydig yn wahanol ar y pwnc, gan fy mod i mewn swydd amser llawn sy’n gofyn i mi wneud i bobol chwerthin.

“Dw i’n foi reit hwyliog, ond mae yna adegau pan mae’n rhaid i mi orfodi fy hun i fynd allan yna i berfformio, pan nad ydw i efallai yn yr hwyliau gorau.

“Dyna pryd dw i’n sylweddoli bod fy nheulu yn rhoi gymaint o gefnogaeth i mi; mae siarad gyda fy mab er enghraifft, hyd yn oed ar-lein, bob amser yn codi calon.

“Rydyn ni’n chwerthin cymaint rydyn ni bob amser yn llwyddo i godi ysbryd ein gilydd.”

‘Iechyd meddwl yr un mor bwysig â iechyd corfforol’

Fel Alaw Owen, mae Tudur Owen yn cefnogi’r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl a all greu llanast o fywydau pobl yn y cartref ac yn y gwaith.

“Os ydan ni’n torri braich neu goes neu’n dioddef salwch corfforol mi fyddan ni’n mynd at y meddyg, ond gyda phroblemau iechyd meddwl mor aml y duedd yw dioddef yn dawel heb ofyn am help neu hyd yn oed siarad amdano,” meddai.

“Mae mor bwysig cydnabod ar gyfer ein lles cyffredinol bod cynnal ein hiechyd meddwl yr un mor bwysig â chynnal ein cryfder corfforol.”

Daeth Alaw, sy’n 34 oed, i weld gallu’r meddwl i wella ar ôl ei phrofiad trawmatig ei hun mewn damwain car ar ei ffordd adref o’r gwaith yn 2018.

Arweiniodd hynny at dreulio tri mis yn yr ysbyty, gan gynnwys pum wythnos mewn uned gofal dwys.

Dioddefodd anafiadau niferus gan gynnwys torri ei dwy droed, a bu’n rhaid iddi ddysgu cerdded eto.

Tynnodd ar nerth mewnol i ailddechrau ei bywyd a delio ag effeithiau meddyliol a chorfforol y ddamwain.

“Rwyf wedi dysgu canolbwyntio fy egni ar y pethau y gallaf eu gwneud, a mireinio’r sgiliau sydd gennyf o hyd yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn na allaf ei wneud mwyach,” meddai.

“Rwy’n meddwl bod hynny’n allweddol i oroesi unrhyw drawma ac mae wedi dwysáu fy ngwerthfawrogiad o’r cryfderau gwaelodol hynny sydd wrth galon bywyd ar draws ardaloedd cefn gwlad y gogledd.

“Dyna pam y sefydlais i ‘Nerth dy Ben’, er mwyn dathlu rhinweddau dewrder, addfwynder a phenderfyniad sy’n sail i gymaint o gymunedau diarffordd.

“Dros genedlaethau, efallai oherwydd arwahanrwydd daearyddol neu am nad oes gennym rai o’r cyfleusterau sydd ar gael mewn llefydd mwy trefol, rydym wedi canfod ein hatebion ein hunain i broblemau ac wedi gwneud ein hadloniant ein hunain.

“Rydyn ni wedi defnyddio ein cerddoriaeth, dawns a chomedi unigryw i gyfoethogi ein bywydau.”

Nerth dy Ben

Mae ei llwyfan ar-lein Nerth dy Ben yn cynnwys cyfraniadau gan amryw o bobol leol sy’n siarad am yr hyn maen nhw’n ei wneud i gadw eu cryfder meddwl yn gryf.

Llinyn cyffredin sy’n rhedeg trwy’r holl ddyddiaduron fideo yw chwerthin, ac mi wnaeth hynny ysbrydoli Alaw Owen i agor y drafodaeth ar bŵer hiwmor i’n helpu trwy amseroedd caled yn ogystal ag adegau da.

“Dyna’r hedyn a’m hysbrydolodd i lansio Cryfder Mewn Comedi, ein digwyddiad byw cyntaf,” meddai.

“Fe ddewison ni Neuadd y Dref Dinbych oherwydd ei fod yn lleoliad mor hyfryd ac yn ganolog i’r enwau adnabyddus hynny sydd wedi bod yn ein diddanu gyda pherfformiadau llwyfan, radio a theledu dros gymaint o flynyddoedd.

“Fe fydd y digwyddiad yn un llac, byrfyfyr iawn gyda’r gynulleidfa’n gallu cymryd rhan mewn sesiynau cwestiwn ac ateb hefyd.

“Pwy a ŵyr i ba gyfeiriad yr aiff y sgwrs?

“Dydw i ddim yn meddwl bod digwyddiad tebyg wedi cael ei gynnal erioed o’r blaen.”

Cefnogaeth digrifwyr

Mae Dilwyn Pierce wedi cynnal ei sioe ei hun ar S4C, ac mae Eryl Davies yn ffefryn lleol ar lwyfan a phantomeim.

Mae’r ddau yn awyddus i gefnogi’r digwyddiad, a hwythau wedi meithrin eu sgiliau comedi fel aelodau o’r Clwb Ffermwyr Ifanc, gan gymryd rhan mewn sioeau lleol yn eu harddegau cyn mynd ymlaen i fod yn ddiddanwyr poblogaidd yn eu rhinwedd eu hunain.

“Mae yna wythïen gyfoethog o gomedi yn rhedeg drwy’r gymuned ffermio,” meddai Dilwyn Pierce.

“Gall ffermio fod yn fywyd mor arw, yn gorfforol galed a hefyd gyda’r pwysau ariannol y mae cymaint o ffermwyr modern yn eu hwynebu.

“Mae emosiynau’n gallu bod yn fregus hefyd, yn enwedig yn y tymor wyna yma ym mryniau Cymru; mae’n dorcalonnus pan nad yw ŵyn newydd-anedig yn goroesi.

“Ond ar yr un pryd mae gan ffermwyr synnwyr digrifwch unigryw; bydd unrhyw un sydd wedi bod yn ffreutur marchnad da byw Rhuthun yn dweud hynny wrthych.

“Mae’n agoriad llygaid gweld cymaint o dynnu coes a chwerthin sy’n digwydd yno.”

Mi wnaeth Eryl Davies ac yntau ddarganfod eu dawn i ddifyrru ar ôl cymryd rhan mewn pantomeimiau traddodiadol a sioeau comedi’r Clwb Ffermwyr Ifanc.

“Mewn llawer o sefyllfaoedd chwerthin yw’r unig feddyginiaeth mewn gwirionedd,” meddai Eryl Davies.

“Mae’r hen ddywediad yna’n ddigon gwir, mewn cyfnod tywyll os na fyddech chi’n chwerthin mi fyddech chi’n crio.

“Fe fyddwn ni’n siarad am hynny a sut y gall comedi ysgafnhau’r baich a chodi’r ysbryd hyd yn oed yn y sefyllfaoedd anoddaf.

“Gall fod yn ffordd o dorri’r iâ ac yn ffordd o gael pobol i agor allan pan fydden nhw fel arall yn cadw eu hemosiynau dan glo.”

Bydd Cryfder Mewn Comedi yn cael ei chynnal yn rhan isaf Neuadd y Dref Dinbych, ar nos Iau, Ebrill 6 am 7.30yh.