“Dydy’r Cymry erioed wedi parchu fi a rhoi cyfle i mi ganu yma o gwbl.”

Dyna farn y gantores 79 oed Tammy Jones, wrth iddi baratoi i berfformio yn Noson Lawen Dyffryn Ogwen, ei Noson Lawen gyntaf erioed.

Bydd rhai o gantorion a cherddorion gorau Dyffryn Ogwen yn cadw cwmni i Gwenno Elis Hodgkins, yr actores amryddawn a chyflwynydd y rhifyn arbennig o Noson Lawen Dyffryn Ogwen ar S4C nos Sadwrn (Mawrth 18) am 8.30yh.

Ymhlith yr enwau adnabyddus fydd yn cadw cwmni iddi mae Bryn Bach, Celt, VRï a Welsh Whisperer.

Dros y ffin yr aeth Tammy Jones i ddatblygu ei gyrfa, a dyma lle daeth hi o hyd i gyfleoedd, gan aros yn driw i’w gwreiddiau trwy ganu’n Gymraeg.

“I ddweud y gwir, hwn yw’r Noson Lawen gyntaf rwy’ wedi gwneud yn fy ngyrfa,” meddai wrth golwg360.

“Roeddwn yn canu yn Gymraeg ac yn Saesneg.

“Mae rhan fwyaf fy ngwaith i wedi bod yn Lloegr.

“Dydy’r Cymry erioed wedi parchu fi, a rhoi cyfle i mi ganu yma o gwbl.

“I feddwl fy mod wedi bod ar y Palladium â Tom Jones….

“Rwy’ wedi gwneud y sioeau Saesneg i gyd, ond ches i erioed gwneud Noson Lawen tan y flwyddyn ddiwethaf.

“Rili, Lloegr sydd wedi bod fy llefydd i erioed.

“Wrth gwrs, gan fy mod yn Gymraes bur, rwy’n canu yn Gymraeg yn y sioeau drwy’r amser, yn y sioeau Saesneg hefyd.”

‘Chwarelwr’

A hithau hefo cysylltiadau personol a theuluol efo’r chwareli, bydd hi’n canu ‘Chwarelwr’ ar Noson Lawen.

“Nhw ddewisodd y gân ‘Chwarelwr’,” meddai.

“Fi oedd yn dweud wrthyn nhw beth oedd gennyf yn Gymraeg.

“Y peth ydy, mae Chwarel Penrhyn yn Nyffryn Ogwen i ddechrau.

“Peth arall, roeddwn i’n gweithio yn y chwarel pan oeddwn yn ifanc.

“Roedd cysylltiad gennyf i efo’r ‘Chwarelwr’.

“Wrth gwrs, roedd fy nhad yn y chwarel a’r hogiau yn y chwarel.

“Roedd cysylltiad ofnadwy efo’r chwarel, er mai cân am lo ydy hi’n Saesneg yn wreiddiol.

“Wrth gwrs, mae’r ‘Chwarelwr’ wedi cael ei wneud i’r chwarel rŵan, i’r llechi, ar wahân i’r glo.”

“Pwysig” bod Dyffryn Ogwen ar Noson Lawen

Mae Dyffryn Ogwen yn ardal sydd â hanes cyfoethog, ac mae Tammy Jones yn teimlo ei bod yn bwysig portreadu hyn ar Noson Lawen.

Hefyd, teimla fod angen rhoi llwyfan i bobol ifanc dalentog.

“Mae gennym lawer o hanes yma i ddechrau efo,” meddai.

“Dw i ddim yn meddwl bod Dyffryn Ogwen erioed wedi cael ei chyflwyno mewn Noson Lawen o’r blaen.

“Rydych yn gweld y de.

“Rwy’n meddwl ei fod yn bwysig ofnadwy i Ddyffryn Ogwen, yn enwedig i roi cyfle i bobol ifanc sydd rŵan yn dod i fyny yn Nyffryn Ogwen.

“Lle arall maen nhw’n mynd i gael eu clywed?”

Y sîn gerddorol

Mae gan Ddyffryn Ogwen ddiwylliant cerddorol, gyda llu o gantorion yn hanu o’r ardal.

“Mae Dyffryn Ogwen wedi bod yn boblogaidd erioed am gerddoriaeth,” meddai.

“Mae yna lawer o gantorion wedi dod o ’ma i ddechrau.

“Rwy’n mynd yn ôl i pan oeddwn yn ysgol Dyffryn Ogwen, roedd cerddoriaeth yn mynd ymlaen adeg yna.

“Roeddem un ai mewn grŵp, neu yng Nghôr Willie Parry [sylfaenydd Côr Plant yr Urdd ym Methesda yn 1933] a chôr plant.”

“Roeddwn yng nghôr plant Willie Parry.

“Mae cerddoriaeth wedi bod yn mynd ers blynyddoedd yma.

“Roedd Mam, os rwy’n cofio yn iawn, yn rhan o gôr pan oedd hi’n ifanc ac mae hynny’n mynd yn ôl mwy, tydi.

“Mae o wedi bod o gwmpas ochrau fan yma erioed rwy’n meddwl.”

Opportunity Knocks

Opportunity Knocks oedd fersiwn y ’70au o’r X Factor.

Ar ei thrydydd tro, enillodd Tammy Jones y wobr efo’r gân ‘Let Me Try Again’, cân serch am berthynas yn dirwyn i ben.

Aeth y gân â Tammy Jones yn bell yn ei gyrfa.

“Yn 1975 roeddwn ar Opportunity Knocks,” meddai.

“Gwnes i drio tair gwaith, ddwywaith wnes i ddim mynd drwadd.

“Y trydydd gwaith, digwydd bod, roeddwn wedi colli Mam ac yn byw yn Lloegr.

“Dyma fi’n penderfynu trio eto.

“Roedd gennyf gariad, ac roedd o wedi darfod efo fi.

“Roeddwn yn canu’r gân ‘Let Me Try Again’ iddo fo.

“Dyma fi’n penderfynu mynd i audition Opportunity Knocks i ganu’r gân yma.

“Dyma Hughie Green yn sefyll ar ei draed, a dweud ‘Rydan ni’n cymryd chi’.

“Es i ar y teledu, gwnes i ennill pum gwaith ar y peth.

“Roeddwn arno fo 12 wythnos i gyd.

“Roeddwn wedi canu llwyth o ganeuon ar Opportunity Knocks ac roedd ‘Let Me Try Again’ yn gân o’r Eidal.

“Roedd y geiriau wedi cael eu sgwennu i Frank Sinatra, a Frank Sinatra oedd yn ei chanu hi.

“Wrth gwrs, ddôth o â record allan, a dyna sut wnes i ei chlywed hi.

“Wnaeth o ddim gwneud llawer o ddim byd efo hi.

“Gwnes i ddechrau canu hi ar Opportunity Knocks, a ddaru cwmni Frank Sinatra benderfynu ail-ddod â hi allan gan bo fi’n ei chanu hi gymaint.

“Roeddwn i wedi recordio ‘Let Me Try Again’, ac roedd o wedi dod â’i fersiwn o allan.

“Fi aeth i’r charts, a dim fo!”

Gyrfa

Yng Nghymru fach y dechreuodd Tammy Jones ei gyrfa, ond yn Lloegr ffynnodd ei gyrfa.

Opportunity Knocks roddodd y llwyfan iddi wireddu ei breuddwydion.

“Dechreuais fel cantores yn Eisteddfodau Cymru i gyd,” meddai.

“Roeddwn yn canu efo côr Willie Parry ac yn cystadlu fel unawdydd.

“Wedyn ges i’r cyfle i fynd i ganu ar y teledu yng Nghymru.

“Es i â recordiau Cymraeg allan pan oeddwn yn ferch ifanc.

“Wedyn roeddwn yn gweithio yn y frigâd dân yng Nghaernarfon.

“Penderfynais fy mod wedi gwneud gymaint ag y gallwn mewn canu yn y wlad yma.

“Dyma fi’n cael transfer efo fy ngwaith i Loegr, a mynd at fy chwaer i fyw.

“Gwnes i ganu yn Lloegr.

“Tra roeddwn yn Lloegr, cyfarfyddais â phobol oedd yn barod i fy helpu.

“Es ar y BBC.

“Gwnes i ganu i’r prif ddyn.

“Fo roddodd fi ar y teledu yn Llundain ar y BBC.

“Roeddwn wedi gwneud hynny i gyd – y Palladium, Tom Jones…

“Roeddwn wedi gwneud rheini i gyd cyn Opportunity Knocks.

Opportunity Knocks oedd y peth rhoddodd fi ar y top.

“Ar ôl hynna, gwnes i cruises dros y byd i gyd.

“Gwnes i ganu dros y byd i gyd, yn Affrica, yn Awstralia, Seland newydd, bob man.

“Gwnes i bantomeims.

“Rwy’ wedi gwneud pedwar pantomeim, Cinderella a Robin Hood, efo sêr mawr.”

Ymddeol

A hithau bellach yn 79 oed, mae Tammy Jones wedi ymddeol a dydy hi ddim yn hoffi gyrru i lefydd pell i ganu.

“Rwy’ wedi ymddeol ond rwy’n gwneud yma ac acw, fel wnes i fynd i wneud Noson Lawen, ac yma ac acw os oes rhywun yn gofyn i mi.

“Dw i ddim eisiau canu rŵan.

“Dim y canu ydy’r drwg, ond y dreifio.

“Rwy’n mynd rhy hen i ddreifio o gwmpas y llefydd yma.

“Mae’n mynd yn ormod o stress i mi.

“Rwy’ newydd droi yn 79.

“Flwyddyn nesaf rwy’n 80, a dyna fo wedyn.”