Mae MônFM wedi cyhoeddi y bydd Geraint Lloyd, cyn-gyflwynydd poblogaidd ar Radio Cymru, yn ymuno â’r orsaf ym mis Ebrill.
Bydd yn cyflwyno’i raglen gyntaf ar nos Fawrth, Ebrill 11 am 9 o’r gloch.
Roedd cryn siom pan ddaeth y newyddion haf diwethaf fod ei raglen i’r BBC yn dod i ben, a chafodd deiseb ei sefydlu er mwyn ceisio achub y rhaglen.
Yn un o gewri darlledu Cymraeg ers chwarter canrif, rhoddodd lwyfan a llais i bobol ar lawr gwlad drwy hyrwyddo cynnwys o gefn gwlad, materion amaethyddol a gweithgareddau cymunedol.
“Mae Geraint wastad wedi paratoi cynnwys radio rhagorol dros y degawdau, gyda’r ddawn o gysylltu’n agos gyda materion ar lawr gwlad,” meddai Tony Wyn Jones, cadeirydd a phennaeth rhaglenni MônFM.
“Mae’n fraint croesawu Geraint i MônFM – rydym yn edrych ymlaen at sgyrsiau difyr a cherddoriaeth gwych bob nos Fawrth.”
Mae Geraint Lloyd yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at fynd ar yr awyr fis nesaf.
“Rwy’n falch iawn o fod yn ymuno â thîm Radio Cymunedol MônFM, a chadw cysylltiad gyda fy ngwrandawyr ar draws Cymru – ar FM yn Ngogledd Orllewin Cymru a thu hwnt ar-lein neu drwy App MônFM sydd ar gael am ddim i’w lawrlwytho neu drwy seinydd clyfar,” meddai.